Diogelwch yn y cartref
Nid yw iechyd a diogelwch yn y cartref bob amser yn rhywbeth rydyn ni'n meddwl amdano, ond mae'n bwysig iawn ein bod ni'n meddwl amdano’n achlysurol i gadw ein hunain, ein hanwyliaid a'n heiddo yn ddiogel. Yma, rydyn ni'n rhoi rhai awgrymiadau i chi i gadw'ch cartref yn ddiogel ac i helpu i atal damweiniau rhag digwydd...
Ysgrifennwyd gan Will
—21 Tach, 2024
Photo by Patrick Perkins on Unsplash
Lleihau'r risg o gwympo
Mae cwympiadau gyda’r damweiniau mwyaf cyffredin yn y cartref, yn enwedig i blant ifanc ac oedolion hŷn. Serch hynny, gall rhai camau syml helpu i leihau'r posibilrwydd o gwymp gartref:
- Sicrhewch eich matiau a'ch carpedi. Defnyddiwch badiau nad ydynt yn llithro o dan fatiau i atal llithro ac osgowch osod matiau rhydd mewn mannau ble mae llawer o fynd a dod.
- Cadwch gynteddau/llwybrau yn glir o annibendod fel teganau, ceblau, neu esgidiau a allai achosi baglu.
- Gwiriwch fod eich canllawiau a'ch bariau gafael yn ddiogel. Os oes angen atgyweirio un o'r rhain, rhowch wybod i Melin cyn gynted â phosibl.
- Mae goleuadau da o amgylch cynteddau a grisiau hefyd yn helpu i wella gwelededd, gan leihau'r perygl o faglu a chwympo. Newidiwch fylbiau yn y mannau yma os ydynt yn torri a chysylltwch â ni os oes angen unrhyw help arnoch gyda hyn.
Diogelwch ystafell ymolchi
Gall ystafelloedd ymolchi fod yn beryglus oherwydd lleithder ac arwynebau caled. Gall ychydig o newidiadau eu gwneud yn llawer mwy diogel:
- Rhowch fatiau heb lithro y tu mewn a'r tu allan i'r gawod neu'r bath i atal llithro. Sicrhewch fod y rhain yn ddiogel cyn eu defnyddio.
- Cadwch loriau'n sych. Sychwch unrhyw ollyngiadau dŵr ar unwaith ac anogwch bawb yn y cartref i wneud yr un peth.
- Defnyddiwch gloeon atal plant ar gypyrddau sydd â gwrthrychau miniog neu lanhawyr, gan gadw'r rhain y tu hwnt i gyrraedd plant.
- Unwaith eto, gwnewch yn siŵr bod eich bariau yn yr ystafell ymolchi yn ddiogel.
- Peidiwch byth â gadael plentyn ar eu pen eu hunain yn y bath, waeth beth yw eu hoed. Gallant foddi’n gyflym ac yn dawel.
- Peidiwch â defnyddio offer trwy’r prif gyflenwad trydan yn yr ystafell ymolchi.
Diogelwch y gegin
Mae risg uchel o ddamweiniau yn y gegin, o ystyried presenoldeb gwrthrychau miniog, arwynebau poeth ac offer trydanol. Dyma sut i gadw'n ddiogel:
- Cadwch gyllyll yn ddiogel mewn bloc neu ddrôr, a defnyddiwch nhw’n ofalus bob amser.
- Fel yn eich ystafell ymolchi, gwnewch yn siŵr eich bod yn sychu gollyngiadau ar unwaith i atal arwynebau llithrig.
- Byddwch yn ymwybodol o'r offer diogelwch tân sydd yn y gegin a sut i'w ddefnyddio. Peidiwch byth â defnyddio dŵr ar dân olew a pheidiwch byth â gadael bwyd i goginio heb oruchwyliaeth.
Atal plant
Mae atal plant yn hanfodol i deuluoedd â phlant ifanc ac rydym eisoes wedi sôn am rai cynghorion diogelwch plant. Ymhlith yr addasiadau eraill y gallwch eu gwneud i gadw'ch cartref yn ddiogel mae:
- Gosod gatiau diogelwch. Rhowch gatiau ar ben ac ar waelod y grisiau ac i gyfyngu mynediad i ardaloedd o risg uchel fel y gegin. Gwnewch yn siŵr bod eich drws ffrynt wedi'i gloi ac os yw plant yn chwarae yn yr ardd flaen/cefn a bod gennych giât, gwnewch yn siŵr ei fod ar gau’n ddiogel.
Gwnewch yn siŵr bod eich dodrefn yn ddiogel. Clymwch silffoedd llyfrau, ddreseri, a theledu i'r wal i'w hatal rhag cwympo os bydd plant yn dringo arnynt. Gwiriwch y gosodiadau hyn yn rheolaidd.
- Cadwch wrthrychau bach, fel batris a darnau arian, y tu hwnt i gyrraedd.
- Peidiwch â gadael i blant gael dyfeisiau trydanol yn gwefru gyda’r plwg i mewn yn eu hystafelloedd dros nos.
Tu allan
Dylai tu allan eich cartref fod yr un mor ddiogel â'r tu mewn, yn enwedig os oes gennych fannau awyr agored fel gerddi neu batios:
- Edrychwch yn rheolaidd am graciau neu gerrig rhydd mewn llwybrau a rhowch wybod i ni am unrhyw ddifrod fel y gallwn ei atgyweirio. Yn yr un modd, rhowch wybod am unrhyw ddirywiad mewn waliau neu ffensys y tu allan fel y gallwn eu hatal rhag bod yn beryglus, yn enwedig ar ôl tywydd garw.
- Cadwch offer a chemegau gardd peryglus mewn mannau storio dan glo neu y tu hwnt i gyrraedd plant. Defnyddiwch y rhain dim ond pan fydd yn ddiogel gwneud hynny a dilynwch gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.
- Gwnewch yn siŵr bod eich goleuadau allanol yn gweithio’n dda a dywedwch wrth Melin am unrhyw broblemau.
Paratoi ar gyfer argyfwng
Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi dangos y dylem ddisgwyl yr annisgwyl ac felly mae'n bwysig cymryd camau syml i fod yn barod os bydd argyfwng:
- Cadwch becyn cymorth cyntaf sylfaenol a gwnewch yn siŵr bod pawb yn gwybod ble mae wedi'i leoli a sut i'w ddefnyddio.
- Os bydd colli pŵer, mae tortsh yn fwy diogel na chanhwyllau ar gyfer goleuadau mewn argyfwng. Cadwch dortsh a batris sbâr wrth law a gall hefyd fod yn syniad da cadw wrth law rhag ofn y bydd colli pŵer am gyfnod estynedig a fyddai'n effeithio ar eich gallu i gael gwybodaeth trwy’r teledu a'r rhyngrwyd.
- Cadwch restr o gysylltiadau mewn argyfwng, gan gynnwys teulu, ffrindiau, cymdogion a gwasanaethau lleol, mewn lle gweladwy.
- Os ydych yn agored i niwed, gwnewch yn siŵr eich bod ar y Gofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth gyda'ch cyflenwyr ynni a dŵr. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod cymorth ar gael i chi mewn argyfwng neu yn ystod amhariad ar wasanaeth.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am ddiogelwch yn eich cartref, rydym am glywed gennych. Peidiwch ag oedi cyn cysylltu â Melin lle gallwn roi cyngor i chi neu drefnu atgyweiriad i'ch helpu i'ch cadw'n ddiogel gartref.