Helpu'r rhai sydd fwyaf mewn angen
Bob blwyddyn rydym yn dathlu ein staff a'u cyflawniadau gyda digwyddiad i ddweud diolch - Y thema eleni oedd Amser i Ddathlu. Mae digwyddiadau fel hyn yn bwysig iawn i ni yma ym Melin, am eu bod yn rhoi cyfle i ni ddod â'n holl staff ynghyd, sy'n wych o ran ymgysylltu â staff a’r darlun ehangach – y rheswm yr ydyn ni’n gwneud yr hyn i ni’n ei wneud.
Ysgrifennwyd gan Fiona
—10 Gorff, 2024
Roedd y digwyddiad hwn yn canolbwyntio ar yr hyn sydd gan y dyfodol i’w gynnig, cydnabod staff sydd wedi mynd cam ymhellach drwy ein gwobrau ‘Arwyr Tai’, a gweithgaredd adeiladu tîm yn canolbwyntio ar gefnogi elusennau i’r digartref. Mwynhaodd y timau amrywiaeth o dasgu difyr ond heriol, yn cystadlu yn erbyn ei gilydd i ‘ennill’ bwyd nad yw’n ddarfodus, a hanfodion i lenwi eu bagiau. Rydym wrth ein bodd â ‘difyrrwch dan orfodaeth’ ym Melin a rodd yr heriau gyfle i dimau gydweithio a dangos sgiliau arwain cadarn, gan gyfathrebu a gwneud penderfyniadau rhagorol, a’r cyfan am resymau werth chweil.
Mae'r cyfan ar gyfer yr elusennau
Ar ddiwedd yr her, roedd gennym 26 bag dan eu sang, yn llawn eitemau hanfodol newydd sbon a rhoddwyd hwy i’n partneriaid yn y Wallich a Llamau sy’n helpu pobl sy’n wynebu digartrefedd.
Diolch yn fawr iawn am rodd mor ystyriol ac urddasol. Ni allwch ddychmygu'r effaith gadarnhaol y bydd hyn yn ei chael ar y rhai sy’n defnyddio’n gwasanaeth. Byddant ar ben eu digon bod cwmni wedi cymryd yr amser i lenwi’r bagiau a chyfrannu’r fath eitemau newydd, hanfodol nad ydynt yn darfod. Bydd cael bag i gadw'r holl eiddo gyda'i gilydd ynddo’i hun, o fudd i bobl, ond mae cael bagiau’n llawn offer ymolchi a dillad glân wedi gwneud gwahaniaeth go iawn.
Diolch i Gartrefi Melin am gyfrannu’r bagiau. Byddwn yn eu rhoi i rai o’r bobl ifanc yr ydym yn eu cefnogi yn ein gwyliau ymgysylltu dros yr haf. Rhodd amserol yn wir!