Cartrefi Melin yn llwyddo o ran barn hyfywedd ariannol 2018
Mae Llywodraeth Cymru unwaith eto wedi rhoi’r farn uchaf i ni am hyfywedd ariannol, llywodraethu a gwasanaethau landlord. Mae’r dyfarniad rheoleiddio “Safon/Safon” yn dangos bod gennym arferion ariannol cadarn ar waith, trefniadau llywodraethu a gwasanaethau landlord effeithiol.
Ysgrifennwyd gan Valentino
—31 Hyd, 2018
Bwriad y farn flynyddol yw ein darparu ni, ein trigolion, rhanddeiliaid a benthycwyr gyda sicrhad o ran sut rydym yn cael ein llywodraethu, sut rydym y bodloni ein hymrwymiadau ariannol parhaus a sut rydym yn cyflenwi gwasanaethau landlord effeithiol. Caiff ei ystyried fel mesur allweddol o berfformiad yn y sector.
Meddai’r Prif Weithredwr, Paula Kennedy “Mae barn heddiw yn adlewyrchiad da o’n sefyllfa bresennol ac rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod ein sefyllfa ariannol gadarn, ein gwasanaethau landlord rhagorol a’n trefniadau llywodraethu effeithiol. Mae hyn yn rhoi sylfaen rhagorol i ni gyflenwi ein cynlluniau uchelgeisiol i adeiladu mwy o gartrefi fforddiadwy ledled de-ddwyrain Cymru. Yn y flwyddyn i ddod, rydym yn edrych ymlaen at weithio’n agos gyda’r tîm rheoleiddio, i barhau i gyflenwi gwell gwasanaethau i’n trigolion. Rwy’n hyderus bod ein cynlluniau yn golygu y medrwn barhau i ddarparu cartrefi a gwasanaethau o ansawdd uchel i’n trigolion.”
Gweler y Farn Reoleiddio – Cymraeg (PDF)
Gweler y Farn Reoleiddio – Saesneg (PDF)