Hyrwyddwyr Ynni Gwyrdd
Mae Cartrefi Melin wedi ymuno â Chwmni Adeiladu P & P Builders i gyflwyno rhaglen effeithlonrwydd ynni ryngweithiol a difyr i Gyngor Eco Ysgol Gynradd Crughywel. Diolch i'r rhaglen rhagorol, mae'r ysgol bellach yn ôl ar y trywydd iawn o ran eu statws baner eco.
Ysgrifennwyd gan Fiona
—08 Chwef, 2017
Mae'r Cyngor Eco yn cynnwys 14 o blant, ac mae pob un ohonynt wedi llwyddo i gwblhau'r rhaglen a derbyn tystysgrif. Dywedodd y plant; "Rydym wedi cael gymaint o hwyl, rydym hyd yn oed wedi gwneud fideo i ddangos ein deg awgrym gorau i arbed ynni." Gallwch weld y fideo ar gyfrif You Tube Cartrefi Melin.
Meddai Tim Crook, cwmni adeiladu P & P Builders: "Rydym yn angerddol dros gefnogi cymunedau. Pan gawsom y cyfle i noddi rhaglen effeithlonrwydd ynni ar gyfer cyngor Eco ysgol gynradd Crucywel fe wnaethom fachu'r cyfle. Fe wnaeth Cartrefi Melin ddysgu'r plant am yr holl ffyrdd syml y gallent arbed arian ac ynni yn y cartref. Roedd y plant yn hynod o ymroddedig ac yn awyddus i addysgu eu rhieni!"
Dywedodd Peter Crockett Dirprwy Brif Weithredwr Cartrefi Melin "Rydym wrth ein bodd ein bod yn gallu cynnig y cyfle i gwmnïau chwarae rhan weithredol yn ein rhaglen ynni. Gweithio gyda'r gymuned ehangach yw ethos Melin."