Buddsoddiad mewn datblygiad
Mewn llai na chwe mis, mae ein tîm Datblygiad wedi buddsoddi dros £8.75miliwn mewn rhaglen adeiladu uchelgeisiol ac maen nhw eisoes ar y ffordd i drosglwyddo dros 50 o gartrefi newydd. Mae trigolion wedi symud i gartrefi yn Greenacres ym Mlaenau Gwent, Clos-y-Frân yng Nghwmbrân, a hefyd Heol Casnewydd, Cil-y-coed.
Ysgrifennwyd gan Sam
—08 Meh, 2022
Mae’r datblygiadau newydd a ddangosir yma’n cynnwys prosiect byw â chymorth a ddatblygwyd i ni gan Henstaff yn Sir Fynwy a datblygiad newydd sbon o 30 o gartrefi a adeiladwyd gan Pendragon yng Nghwmbrân (mae 22 o’r cartrefi yma â rhywun yn byw ynddyn nhw bellach, gyda’r gweddill am gael eu trosglwyddo i ni ym Mehefin.)
Mae ein rhaglen datblygiad yn parhau, ac rydym ar y safle ar hyn o bryd yn darparu cartrefi newydd yn Sir Fynwy, Torfaen, Casnewydd a Blaenau Gwent gyda mwy o brosiectau ar y gweill gan gynnwys Powys ac mae gennym raglen Homebuy weithgar o hyd.
Mae’r rhaglen datblygiad yma yn benllanw blynyddoedd o waith caled a chynllunio manwl gan ein tîm, ein partneriaid mewn adeiladwaith a llywodraeth leol, a Llywodraeth Cymru. Rwy’n hynod o falch ein bod ni ar y ffordd i gyflenwi’r cartrefi yma o ansawdd uchel y mae mawr eu hangen.