Cadw dyfeisiau sy’n defnyddio batris yn ddiogel
Mewn byd sy’n dod yn fwyfwy cysylltiedig, mae llawer o'n dyfeisiau bob dydd yn cael eu pweru gan fatris lithiwm-ion, o ffonau smart i liniaduron a hyd yn oed brwsys dannedd trydan. Er bod y batris hyn wedi chwyldroi ein ffordd o fyw a gweithio, mae rhai agweddau diogelwch pwysig i'w cofio…
Ysgrifennwyd gan Will
—22 Ion, 2024
Mae batris lithiwm-ion yn adnabyddus am eu dwysedd ynni uchel, sy’n eu gwneud yn ddewisiadau poblogaidd o ran dyfeisiau electronig amrywiol. Ond, mae'r fath ddwysedd ynni uchel hefyd yn agored i berygl o dân. Mae cwmnïau yswiriant wedi adrodd yn ddiweddar am gynnydd yn nifer yr hawliadau’n ymwneud â thanau a achosir gan y batris hyn. Gall gor-wefru, difrod ffisegol, neu ddiffygion cynhyrchu arwain at gynnydd sydyn yn nhymheredd y batri, a allai arwain at dân.
Er mwyn osgoi hyn, dyma rai awgrymiadau da i gadw'ch dyfeisiau a'ch cartref yn ddiogel:
1. Cofiwch Osgoi Gor-wefru: O ran y batri, mae gor-wefru yn un o’r achosion mwyaf cyffredin. Unwaith y bydd eich dyfais wedi ei wefru’n llawn, tynnwch y plwg yn brydlon i osgoi straen diangen ar y batri.
2. Defnyddiwch Ddyfeisiau Gwefru Gwreiddiol: Defnyddiwch y ddyfais wefru wreiddiol sy’n cael ei darparu gan wneuthurwr y ddyfais bob amser. Efallai na fydd gan ddyfeisiau gwefru rhad neu ffug y nodweddion diogelwch angenrheidiol, a all beri i’r batri fethu. Sicrhewch fod gan eich dyfais logo diogelwch ‘CE’.
3. Edrychwch am Ddifrod: Edrychwch ar eich dyfeisiau yn rheolaidd i weld a oes unrhyw arwydd o ddifrod, fel tolciau, tyllau neu chwydd. Os byddwch yn sylwi ar rywbeth anarferol, cofiwch roi'r gorau i ddefnyddio'r ddyfais a cheisio cyngor proffesiynol.
4. Storiwch Ddyfeisiau yn Ddiogel: Pan nad ydych yn eu defnyddio, storiwch hwy mewn lle oer a sych, i ffwrdd o olau’r haul a thymheredd eithafol. Ceisiwch osgoi gadael dyfeisiau ar arwynebau fflamadwy, fel gwelyau neu soffas. Dylech hefyd osgoi plygu ceblau’ ormodol gan y gall hyn achosi iddynt dorri, a datgelu gwifrau.
5. Cael Gwared ar Hen Fatris yn y ffordd gywir: Pan ddaw'n amser i chi gael dyfais neu batri newydd, gwnewch yn siŵr eich bod yn cael gwared ar yr hen fatri yn y ffordd gywir. Mae llawer o gynghorau lleol a mân-werthwyr yn cynnig gwasanaethau ailgylchu batris.
Wrth ddilyn yr awgrymiadau hyn a bod yn ofalus wrth wefru dyfeisiau, gallwch helpu i'ch cadw chi a'ch cartref yn ddiogel ac atal y perygl o danau sy'n gysylltiedig â batris.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon am ddiogelwch tân yn eich cartref, cysylltwch â Melin cyn gynted â phosibl er mwyn cael cymorth ac arweiniad.