Mae eich pleidlais yn cyfrif
Ydych chi'n barod ar gyfer etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar y 5ed o Fai? Os ydych chi eisiau pleidleisio, mae angen i chi gofrestru gyda’ch swyddfa etholiadol leol.
Ysgrifennwyd gan Valentino
—05 Ebr, 2016
Felly beth ydych chi'n pleidleisio drosto? Wel, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynrychioli pobl Cymru ac yn pasio cyfreithiau ar faterion datganoledig, ac mae gennych yr hawl i bleidleisio dros bwy bynnag yr ydych am i'ch cynrychioli yn y fath benderfyniadau mawr. Mae awdurdodau lleol yn cyhoeddi enwau'r ymgeiswyr sy'n sefyll mewn etholiad tua thair wythnos cyn y diwrnod pleidleisio, felly cadwch lygad ar wefan eich awdurdod lleol neu yn y newyddion lleol i ddarganfod pwy sy'n sefyll yn eich ardal chi. Os ydych am wybod mwy am y Cynulliad a phleidleisio, gallwch weld yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch yma, neu fe allwch lawr lwytho eich llyfryn gwybodaeth i bleidleiswyr yma.