Mae gennym enillydd
Cynhaliwyd y raffl chwarterol heddiw a Louise Lewis o Dorfaen oedd yr aelod lwcus o 100 o Leisiau i ennill gwerth £25 o dalebau stryd fawr.
Ysgrifennwyd gan Sam
—08 Mai, 2019
Clywodd am ein grŵp adborth ar-lein, 100 o Leisiau yn Newyddion Melin a dyma pam roedd hi eisiau bod yn rhan o'r sgwrs;
“Rydw i wedi byw yn yr ardal am bedair blynedd a hanner; mae'n gymuned fach hyfryd ac roeddwn i'n meddwl y byddai'n braf gallu siarad ar ran ein cymdogion. Yn ddiweddar, cefais ddiagnosis o Syndrom Sjogrens, Fibromyalgia ac Osteoarthritis a oedd yn golygu bod yn rhaid i mi roi'r gorau i'm busnes, ond rwyf dal eisiau bod yn rhan o'r gymuned ac rwy'n credu y gallai bod yn rhan o 100 o Leisiau roi cyfle i mi wneud hynny.”
Hoffai Louise glywed gan bobl eraill sy'n dioddef o Syndrom Sjogrens gan mai un dioddefwr arall yn y DU y mae hi'n ymwybodol ohono.