Melin a Dreigiau yn y Gymuned yn Dod at ei Gilydd ar gyfer y Tymor Newydd
Mae Melin wrth ei bodd i adnewyddu ei phartneriaeth gyda Dreigiau yn y Gymuned ar gyfer y tymor sydd ar droed - 2022/23. Dreigiau yn y Gymuned yw cangen ymgysylltu ac allgymorth Clwb Rygbi'r Dreigiau, sef tîm rygbi proffesiynol de-ddwyrain Cymru sydd â'i gartref yn Rodney Parade, Casnewydd.
Ysgrifennwyd gan Will
—15 Medi, 2022
Cysylltu â'n cymunedau trwy rygbi
Nod Melin yw 'creu cyfleoedd i bobl a chymunedau ffynnu' ac mae gweithio gyda mudiadau chwaraeon yn y gymuned fel Dreigiau yn y Gymuned yn allweddol er mwyn gwireddu hynny. Fel rhan o'r bartneriaeth sydd wedi cael ei hadnewyddu, bydd Dreigiau yn y Gymuned yn:
- Cynnal sawl diwrnod sgiliau cymunedol ac allgymorth ar ran Melin, er budd teuluoedd Melin
- Cynnal sawl diwrnod sgiliau mewn ysgolion yng nghymunedau Melin
- Darparu lleoedd er mwyn i breswylwyr Merlin fynd i wersylloedd sgiliau Clwb Rygbi'r Dreigiau yn ystod y gwyliau
- Helpu Melin i redeg ei diwrnod o hwyl i'r teulu, Zest in the Park, sy'n llwyddiannus dros ben ac yn hynod o boblogaidd, unwaith eto yn ystod haf 2023, yn ogystal â'n presenoldeb yn y Parti yn y Parc blynyddol.
- Cynnal sawl sesiwn atgofion o fyd chwaraeon ar gyfer preswylwyr ein cynllun tai gwarchod
- Croesawu staff Melin a'u plant i Rodney Parade yn rhan o'r osgordd er anrhydedd cyn gêm rygbi
Yn ogystal â'r gweithgareddau cymunedol gwych hyn, bydd Melin hefyd yn amlwg ar frandio Clwb Rygbi’r Dreigiau trwy gydol tymor 2022/23. Bydd hyn yn atgyfnerthu ein rôl bwysig mewn cymunedau ar draws rhanbarth Clwb Rygbi'r Dreigiau yn ne-ddwyrain Cymru.
Roedd Paula Kennedy, Prif Swyddog Gweithredol Cartrefi Melin wrth ei bodd i weld partneriaeth Melin yn parhau gyda Dreigiau yn y Gymuned. “Mae rygbi yn rhan o galon ac enaid de Cymru,” meddai, “ac felly ry’n ni wrth ein boddau i barhau gyda'n gwaith cymunedol pwysig gyda Chlwb Rygbi'r Dreigiau.
“Mae Mike Sage a thîm Dreigiau yn y Gymuned wedi bod yn anhygoel i ni. Maen nhw wedi ymgysylltu â'n preswylwyr mewn nifer o ddigwyddiadau ac wedi darparu hwyl a phrofiadau cofiadwy ar gyfer ein pobl ifanc. Ry'n ni'n gyffrous iawn i fod yn gweithio gyda nhw yn y flwyddyn sydd ar droed ac yn dymuno'r gorau i holl dîmau Clwb Rygbi'r Dreigiau yn ystod tymor 2022/23!”
Roedd Mike Sage, Rheolwr Cymunedol Clwb Rygbi'r Dreigiau, hefyd yn falch o fod yn gweithio gyda Melin unwaith eto. Meddai: “Mae Cartrefi Melin wedi bod yn bartner cymunedol hirdymor gwych. Maen nhw'n rhannu ein hangerdd a'n balchder ynghylch cefnogi ein cymunedau lleol trwy ymgysylltiad cymunedol sy'n ysbrydoli.
“Diolch i'n partneriaeth, gallwn gael effaith gadarnhaol ar fywydau miloedd o bobl bob blwyddyn a chynnig cyfleoedd na fyddai'n bosibl heblaw hynny. Dros y blynyddoedd, aeth ein partneriaeth o nerth i nerth, ac rydym wedi datblygu perthynas weithio o ansawdd uchel gyda staff Melin, sy'n sicr yn rhan o Deulu'r Dreigiau. Fel y mae arwyddair Melin yn ei ddweud: 'Gyda'n Gilydd, Gallwn' - a gyda'n gilydd ry'n ni'n sicr yn gwneud!”