Homebuy Melin yn cwblhau gwerthiant cartrefi newydd Glyn Ebwy
Mae Homebuy Melin wrth ei fodd yn rhannu’r newyddion ein bod wedi cwblhau gwerthiant ein heiddo ar ddatblygiad newydd Blue Lake Close yng Nglyn Ebwy. Daeth y datblygiad i fodolaeth gyda phartneriaeth rhwng Cartrefi Melin, Lovell, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a Llywodraeth Cymru.
Ysgrifennwyd gan Will
—05 Ebr, 2022
Mae Homebuy Melin wrth ei fodd yn rhannu’r newyddion ein bod wedi cwblhau gwerthiant ein heiddo ar ddatblygiad newydd Blue Lake Close yng Nglyn Ebwy. Daeth y datblygiad i fodolaeth gyda phartneriaeth rhwng Cartrefi Melin, Lovell, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a Llywodraeth Cymru.
Mae’r datblygiad wedi gweld cyfanswm o 100 o gartrefi yn cael eu hadeiladu ar hen safle’r chwarel oddi ar Waun-y-Pound Road, gyda chymysgedd o dai ar y farchnad agored, tai cymdeithasol a thai rhannu ecwiti Homebuy ar gael.
Mae Homebuy Melin, NowYourHome gynt, wedi goruchwylio gwerthiant dau gartref fforddiadwy yn Blue Lake Close, gan gynnwys un Peter Hughes. Symudodd Mr Hughes i Blue Lake Close ym mis Rhagfyr 2021, ac roedd wrth ei fodd gyda’i gartref newydd.
Rwyf wrth fy modd gyda nghartre’ newydd yn Blue Lake Close ac yn hapus iawn gyda’r gwasanaeth a gefais gan Homebuy Melin. Helpodd Melin wneud y broses gyfan mor llyfn â phosib ac mae’r gwasanaeth ôl-ofal a gefais gan Lovell wedi bod yn rhagorol hefyd.
Roedd Phil Parfitt, arweinydd tîm Homebuy, hefyd yn blês iawn gyda sut roedd y datblygiad wedi mynd. Meddai: “Mae datblygiad Blue Lake Close yng Nglyn Ebwy yn dangos sut y mae Melin wedi gweithio’n llwyddiannus gyda Chyngor Blaenau Gwent, Lovell a Llywodraeth Cymru i greu’r gymuned gynhwysol newydd hon.
“Mae’n wych clywed pa mor hapus y mae Mr Hughes gyda’i gartref newydd ac mae’n hwb go iawn i’n tîm, sy’n gweithio’n galed iawn.”
Ychwanegodd: “Mae’r Tîm Homebuy yn cynorthwyo cleientiaid i fod yn berchnogion ar draws pump o ardaloedd Awdurdod Lleol, sy’n gallu cael a fforddio morgais ond sy’n cael anhawster i fynd ar yr ysgol eiddo. Mae’r cynllun wedi ei ddylunio i wneud perchnogaeth tai yn fwy fforddiadwy drwy gynnig benthyciad ecwiti di-log, yn nodweddiadol rhwng 30 a 50% o werth yr eiddo ar y farchnad. Rydym yn cynnig cymorth ychwanegol pan fydd y perchennog yn gwerthu’r eiddo neu eisiau ail-forgeisio.”
Gan siarad am yr ail-frandio o NowYourHome i Homebuy Melin, dywedodd Phil: “O’r 1af Ebrill rydym wrth ein boddau ein bod wedi ail-frandio ein henw i Homebuy Melin. Mae popeth arall yn aros fel yr oedd, ac eithrio’r newid enw, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda chleientiaid newydd a phresennol at y dyfodol.”
Ni fyddai’r datblygiad wedi bod yn bosibl heb y bartneriaeth agos rhwng rhanddeiliaid tai.
Dywedodd Tara Lane, Rheolwr Tîm Cymunedau Cysylltiedig: “Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent wrth ei fodd yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chartrefi Melin, Lovell a Llywodraeth Cymru i ddod â chartrefi o ansawdd mawr eu hangen i’r ardal.
Mae cartrefi wrth galon pob cymdogaeth gynaliadwy ac mae’r cyfle gwych hwn drwy’r Cynllun Prynu Cartrefi wrth graidd y gymuned ac mae o fudd mawr i drigolion Blaenau Gwent.
Rydym yn edrych ymlaen at ddod â mwy o newyddion i chi gan Homebuy Melin wrth i ni barhau gyda’n gwaith i sicrhau bod cartrefi fforddiadwy ar gael i gymunedau ledled de-ddwyrain Cymru.