Melin Homes a Candleston: Creu swyddi trwy adeiladu cymunedau
Mae adeiladu cymunedau newydd yn golygu mwy na brics a morter. Rydym wrth ein bodd o weld effaith gynnar ein datblygiad newydd yn Elderwood Parc, ar Crick Road, Sir Fynwy, ar y gymuned leol trwy greu swyddi.
Ysgrifennwyd gan Will
—24 Mai, 2023
Mae adeiladu cymunedau newydd yn golygu mwy na brics a morter. Rydym wrth ein bodd o weld effaith gynnar ein datblygiad newydd yn Elderwood Parc, ar Crick Road, Sir Fynwy, ar y gymuned leol trwy greu swyddi.
Bydd Elderwood Parc, sy’n cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â Lovell a Chyngor Sir Fynwy, yn cynnwys 269 o gartrefi newydd a chartref gofal 32 ystafell wely. Mae cryn dipyn o gynllunio ac ymdrech logistaidd i roi’r safle ar ben ffordd ac mae’n cyflogi cannoedd o weithwyr nawr mewn amrywiaeth o broffesiynau, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol.
Mae llawer o’r swyddi yma’n cyflogi pobl leol ac rydym yn falch o gael dangos rhai ohonynt yma.
Ymunodd Gareth Reid â’r tîm fel Labrwr Adeiladwaith, ymunodd Lorraine Price fel glanhawraig a Hafizullah Ashratee fel Gwarchodwr Clwyd. Mae Gareth, Lorraine a Hafizullah i gyd yn byw’n agos at Elderwood Parc, sy’n dangos sut mae ein datblygiad newydd o fudd i’r gymuned ehangach.
Cafodd Gareth hyd i’r swydd yn Elderwood Parc ar ôl siarad ag un o’r rheolwyr ar y safle. Bu’n gweithio fel Labrwr gyda Beacons Business Interiors, felly roedd ganddo’r union brofiad yr oedd ei angen i lwyddo yn y swydd.
Dywedodd Gareth: “Gwnes i gais am y rôl oherwydd bod y syniad o fod yn rhan o gwmni gwych yn apelio ataf i. Mae fy ngwaith dydd i ddydd yn golygu helpu i gadw’r safle’n lân ac yn drefnus trwy wneud pob dim o godi sbwriel a rwbel, i drefnu’r deunyddiau ar y safle.
Mae Lovell wedi dangos parch a gofal ac wedi cynorthwyo fel cyflogwyr, ar rwy’n mwynhau cael helpu pobl a dysgu ar yr un pryd.
Cafodd Lorraine ei swydd newydd pan welodd hysbyseb ar y bwrdd y tu allan i’r safle. Roedd y swydd i’r dim iddi, gan ei bod hi’n chwilio am swydd glanhau newydd ac mae’r safle ond pum munud i ffwrdd o’i chartref. Roedd hi wedi cael swyddi glanhau o’r blaen mewn meddygfa, corffdy mewn ysbyty a safle adeiladu tai.
Dywedodd Lorraine: “Rwy’n mwynhau cwrdd â phobl newydd a gweld sut mae eu diwrnod yn mynd. Mae’n hyfryd siarad â phobl a dysgu am y rhannau gwahanol sydd gan bobl wrth gynnal safle da a gweld y datblygiad yn dechrau ffurfio dros amser.
“Mae pawb yn gwrtais iawn, mae’r deunydd y mae eu hangen bob amser gen i ac rwy’n cael fy nhrin fel rhan o’r tîm. Rwyf wedi cael swyddi blaenorol ble doeddwn ni ddim yn cael fy nghynnwys yn yr un ffordd oherwydd mai Glanhawraig oeddwn i, ond mae’n bleser gweithio i Lovell.”
Mae Hafizullah, yr ydym wedi sôn amdano o’r blaen yn ein newyddion, wedi bod yn gweithio ar y safle ers dros flwyddyn ac mae hyn wedi bod yn rhan annatod o’i fywyd newydd yng Nghymru ar ôl iddo ffoi ar ôl cwymp y llywodraeth a gefnogwyd gan y gorllewin yn Afghanistan.
Dywedodd Hafizullah: “Roedd y rôl yn apelio ataf i gan ei bod yn agos at fy nghartref ac mae’r swydd yn un ddiddorol. Mae fy niwrnod arferol yn golygu cofnodi pawb wrth ddod i mewn a mynd allan o’r safle a chasglu’r tocynnau ar gyfer y nwyddau i gyd sy’n dod.
“Rwy’n wir mwynhau fy rôl ac rwy’n cael cwrdd â llawer o bobl gyfeillgar pob dydd. Mae Lovell yn gyflogwr gwych ac maen nhw am i’w staff ddatblygu yn eu rôl trwy hyfforddiant. Yn y dyfodol, rydw i am wella i fod ymhlith staff mwyaf llwyddiannus Lovell.”
Roedd Scott Rooks, Cyfarwyddwr Masnachol Cartrefi Melin a Candleston, yn falch o weld effaith gadarnhaol y datblygiad ar bobl leol. Dywedodd: “Mae datblygiad Elderwood Parc yn ymdrech tîm go iawn ac mae’n wych gweld cymaint o bobl leol yn cael hyd i waith gyda Lovell a chontractwyr eraill ar y safle. Mae storïau Gareth, Lorraine a Hafizullah’n dangos y gwahaniaeth y gall cyfleoedd am waith o ansawdd uchel wneud i’r cymunedau yr ydym yn gweithio ynddynt.
Ychwanegodd: “Ymhen amser, bydd Elderwood Parc yn tyfu i fod yn gymdogaeth ffyniannus o bron i 270 o gartrefi ac yn ein helpu i fynd i’r afael â phrinder difrifol tai yn ein rhanbarth. Rydym yn falch o fod yn chwarae rhan allweddol wrth daclo’r argyfwng tai ac wrth roi cyfle i bobl yn y gymuned leol ddatblygu ei gyrfaoedd a gwneud eu marc.”