Cartrefi Melin ac Ysgol Uwchradd Cwmbrân yn lansio partneriaeth ac yn llofnodi Siarter Plant yng Nghymru
Mae Melin Homes ac Ysgol Uwchradd Cwmbrân wedi lansio eu gwaith partneriaeth a llofnodi Siarter Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc Cymru, felly'n dangos ymrwymiad y sefydliad i gyflawni'r saith safon; a galluogi pobl ifanc a phlant i ddweud eu dweud mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw.
Ysgrifennwyd gan Fiona
—07 Ion, 2020
Mae tystiolaeth yn dangos y gall rhaglenni iechyd meddwl a lles mewn ysgolion arwain at welliannau sylweddol yn sgiliau iechyd meddwl, cymdeithasol ac emosiynol plant. Gall darpariaeth lles mewn ysgolion hefyd arwain at ostyngiadau mewn camymddwyn a bwlio yn yr ystafell ddosbarth. Mae Ysgol Uwchradd Cwmbrân eisoes yn cymryd lles disgyblion o ddifri ac mae ganddyn nhw 20 o fyfyrwyr sy'n llysgenhadon lles ar draws yr ysgol sy'n ymroddedig i wella iechyd a lles. Gyda hyn mewn golwg mae Melin wedi gweithio gydag Ysgol Uwchradd Cwmbrân i greu rhaglen ysgol newydd sy'n canolbwyntio'n llwyr ar les disgyblion, athrawon a rhieni.
Wrth siarad am yr ymrwymiad i ysgolion a llofnodi'r siarter, dywedodd Paula Kennedy, Prif Weithredwr Cartrefi Melin;
“Rydym yn cydnabod pwysigrwydd datblygu, annog a chroesawu barn, sgiliau a galluoedd pobl ifanc. Byddwn yn parhau i ddatblygu ein rhaglen ysgolion, cyfleoedd prentisiaeth a'n grŵp ieuenctid, Yep.
Rydym am greu cyfleoedd i gynifer o bobl ifanc â phosibl. Bydd hyn yn gwella eu sgiliau ac yn cryfhau cymunedau. Ein nod yw sicrhau bod pob person ifanc yn gallu cyrchu cyfleoedd gweithredu cymdeithasol, beth bynnag fo'u cefndir; mae hyn yn sail i bopeth a wnawn."
Y dechrau yn unig ydyw i'r peilot ac edrychwn ymlaen at rannu'r canlyniadau wrth i'r prosiect fynd yn ei flaen.