Cydnabod Melin yng Ngwobrau Tai Cymru am hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth
Roeddem yn falch iawn ein bod wedi cael ein cydnabod am ein rôl yn hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn tai yng Nghymru ddydd Iau 12 Rhagfyr wrth i Melin gipio'r wobr 'Rhagoriaeth mewn Hybu Cydraddoldeb ac Amrywiaeth' yng Ngwobrau Tai Cymru 2024 Sefydliad Siartredig Tai Cymru.
Ysgrifennwyd gan Will
—13 Rhag, 2024
Mae'r wobr hon yn tynnu sylw at sefydliadau yn y sector tai yng Nghymru sy'n arwain wrth greu cymunedau cynhwysol a theg. Mae'r wobr yn "cydnabod sefydliadau sy'n arwain hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth o fewn eu busnesau." Mae'n ceisio dangos sut mae sefydliadau yn sector tai Cymru yn creu "newid ystyrlon ac [yn cyfrannu] at adeiladu cymuned wirioneddol gynhwysol."
Mae ein hymagwedd tuag at Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) yn rhywbeth yr ydym yn falch iawn ohono. Mae EDI wedi'i ymgorffori ym mhob lefel o'n cymdeithas, gan helpu i feithrin diwylliant sy'n gynhwysol, yn deg, a heb wahaniaethu ynddi. Rydym yn gwybod fod diwylliant sy'n gwerthfawrogi amrywiaeth a chynhwysiant yn helpu i ddod â'r gorau i’r amlwg ym mhawb, gan werthfawrogi talentau amrywiol i wella gwasanaethau ac adeiladu cymunedau cryf.
Un o'n llwyddiannau mwyaf nodedig yw bod y gymdeithas tai gyntaf yng Nghymru i sicrhau'r Wobr Arweinwyr QED fawreddog ym mis Awst 2024. Mae'r achrediad cenedlaethol hwn yn tanlinellu eu harweinyddiaeth mewn arferion cydraddoldeb ac amrywiaeth. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb y bartneriaeth rydym wedi'i datblygu gyda Thai Pawb a'u cefnogaeth barhaus yn ein taith EDI.
Mae rhai o'n cerrig milltir a'n gorchestion allweddol wrth ymwreiddio EDI ar draws ein cymdeithas wedi cynnwys:
- Sefydlu gweithgor hygyrchedd a diweddaru hysbysebion swyddi i sicrhau cynwysoldeb.
- Cynnal hyfforddiant rhagfarn anymwybodol gyda staff a bwrdd ac adolygu polisïau er mwyn sicrhau tegwch wrth gyflogi.
- Partneru gyda sefydliadau anabledd a hil i ddenu ymgeiswyr amrywiol a gwella cynrychiolaeth o fewn ein staff a'n bwrdd.
- Gweithio gyda chymdeithasau tai eraill a phrifysgolion i ddarparu cyfleoedd i grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys interniaethau i fyfyrwyr rhyngwladol.
- Casglu a dadansoddi data EDI i lywio penderfyniadau a gwasanaethu tenantiaid yn well, gan ganolbwyntio ar grwpiau anodd eu cyrraedd.
- Llofnodi addewid HouseProud Stonewall, sy'n ein hymrwymo i wella ansawdd bywyd trigolion LHDTC+ yn ein cymunedau
- Cynnydd dramatig mewn staff sy’n datgelu anableddau (o 0.8% i 20.4%), gan adlewyrchu diwylliant mwy cynhwysol yn y gweithle.
- Casglu data EDI gan o 93% o staff, gan alluogi gwelliannau ar sail data.
- Mae grwpiau ffocws gyda staff lleiafrifoedd ethnig a'r rhai ag anableddau wedi sbarduno newidiadau sefydliadol ystyrlon.
- Gwell hygyrchedd mewn cyfathrebiadau, gan sicrhau cynwysoldeb ym mhob fformat.
- Mae arolwg boddhad a ail-gomisiynwyd bellach yn dadansoddi adborth yn ôl anabledd, hil, ac oedran, gan ganiatáu ymgysylltiad mwy cynhwysol gyda thrigolion.
Cydnabod Melin yng Ngwobrau Tai Cymru am hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth
Mae ennill y wobr 'Rhagoriaeth mewn Hybu Cydraddoldeb ac Amrywiaeth' yn ffordd wych o ddathlu'r gwaith rydym wedi'i wneud ym maes EDI dros y flwyddyn ddiwethaf a mwy. Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod mwy i'w wneud. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio ar ein targedau EDI wrth i ni symud yn agosach at ein huno â Chartrefi Dinas Casnewydd a dod yn stiwardiaid i grŵp mwy amrywiol hyd yn oed o gymunedau a rhwydweithiau ledled y rhanbarth.