Bwlch cyflog rhwng y rhywiau Melin - 2023/24 gwybodaeth
Ym Melin rydym yn falch o'r enw da sydd gennym o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod mwy i'w wneud ac rydym yn ymdrechu'n barhaus i wneud ein sefydliad yn fwy teg. Rhan allweddol o hyn yw monitro ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau.
Ysgrifennwyd gan Will
—22 Ebr, 2024
Y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yw'r gwahaniaeth mewn enillion ar gyfartaledd rhwng dynion a menywod. Yn y DU, rhaid i gwmnïau sydd â 250 neu fwy o weithwyr roi gwybod am eu bwlch cyflog rhwng y rhywiau bob mis Ebrill. Er bod ein tîm yn llai na hynny, rydym yn dewis rhannu ein ffigurau i ddangos ein hymroddiad i gydraddoldeb yn y gweithle a'i fonitro'n fisol yma ym Melin.
Ym mis Chwefror 2024, roedd ein bwlch cyflog canolrifol rhwng y rhywiau yn 0%, a'n bwlch cyflog cymedrig rhwng y rhywiau oedd 1.41%.
Y canolrif yw'r rhif canol pan fo set o rifau yn cael ei didoli mewn trefn, a’r gwerth cymedrig yw cyfartaledd cyfres o rifau. Wrth adrodd ar gyflogau rhwng y rhywiau, mae'r gwerth canolrifol yn fwy arwyddocaol am nad yw’r allanolion yn effeithio cymaint arno ar begwn uchaf neu isaf y raddfa gyflog.
Ers mis Ebrill 2023, mae ein bwlch cyflog canolrifol rhwng y rhywiau wedi bod yn 0% (i lawr o 0.42% ym mis Chwefror 2023), ac mae ein bwlch cyflog cymedrig rhwng y rhywiau wedi gostwng o 4.93% ym mis Chwefror 2023.
Mae'r wybodaeth hon yn rhoi cipolwg i ni ar sut mae gweithwyr gwrywaidd a benywaidd yn cael eu dosbarthu ar draws y gwahanol fandiau cyflog ym Melin. Mae hyn yn ein galluogi i nodi unrhyw anghydbwysedd a gweithredu i'w cywiro. Er enghraifft, rydym yn gwybod, mewn rhai bandiau cyflog, nad yw menywod yn cael eu cynrychioli'n ddigonol oherwydd ein rolau masnach medrus sy'n syrthio yn y bandiau cyflog hyn, sy'n cael eu cyflawni gan ddynion yn unig.
Serch hynny, rydym mewn sefyllfa gref o ran cyflog rhwng y rhywiau. Mae bwlch bach neu sero yn dangos ymagwedd ‘gwneud nid dweud’ tuag at gydraddoldeb yn ein sefydliad ac mae’n ein helpu i ddenu mwy i ymgeisio am swyddi. Mae'n ein rhoi yn y sefyllfa iawn i gynrychioli'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu, denu'r talent gorau a bod y newid yr ydym am ei weld mewn cymdeithas.