Mel's bees
Ychydig amser yn ôl fe wnaethom ein rhan i roi hwb i boblogaeth gwenyn Torfaen drwy roi £1200 i fenter gymunedol Mel’s Bees. Mae'r grŵp sydd wedi ei leoli yn Nhorfaen yn cael ei gefnogi gan y cyngor ac yn awr yn gallu datblygu ei safle ac adeiladu cychod gwenyn newydd.
Ysgrifennwyd gan Marcus
—18 Chwef, 2016
Ychydig amser yn ôl fe wnaethom ein rhan i roi hwb i boblogaeth gwenyn Torfaen drwy roi £1200 i fenter gymunedol Mel’s Bees. Mae'r grŵp sydd wedi ei leoli yn Nhorfaen yn cael ei gefnogi gan y cyngor ac yn awr yn gallu datblygu ei safle ac adeiladu cychod gwenyn newydd.
Maent wedi defnyddio'r arian a anfonwyd i symud dros 1200 tunnell o bridd a sbwriel, a oedd wedi ei adael ar ôl i’r tir fod heb ei ddefnyddio ers dros 30 mlynedd. Hefyd, gydag ein help, mae'r grŵp wedi mynd o gael dau gwch gwenyn i gael 27, sy'n eu galluogi i gynhyrchu mêl o radd fasnachol.
Mae Mel’s Bees yn awr yn chwilio am fwy o wirfoddolwyr sy'n awyddus i ddysgu mwy am wenyna (cadw gwenyn.) Bydd gwirfoddolwyr yn helpu gyda phaentio, gwaith coed a thirlunio. Mae'r grŵp bellach yn dilyn hyfforddiant cymorth cyntaf gan gynnwys COSHH a hyfforddiant ar sut i ddefnyddio ysgrifbinnau epi rhag ofn bydd rhywun yn dioddef adwaith alergaidd at bigiadau gwenyn.
Cadwch Mel’s yn sïo, a gallwch fynd at eu tudalen Facebook am wybodaeth ar sut i wirfoddoli.