Polisi Cwcis This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.
Tudalen Breifatrwydd

Yn ôl i newyddion

Penodi mwy i’r Bwrdd yn sgil y cam arfaethedig i uno

Wrth i ni barhau i gynllunio ein cam i uno â Chartrefi Dinas Casnewydd, rydym yn falch o gyhoeddi rhai penodiadau ychwanegol i’r Bwrdd Interim.

Lleoliad:

19 Meh, 2024

Lluniau proffil o aelodau'r bwrdd newydd

Bydd y sefydliad newydd yn cael ei wasanaethu gan 'Fwrdd Unedol' – gydag aelodau gweithredol ac anweithredol fel ei gilydd.

Bydd Paula Kennedy, fel Darpar Brif Weithredwr, yn aelod o’r Bwrdd, ynghyd â Chyfarwyddwr Gweithredol Adnoddau (i’w benodi).

Yn dilyn cyhoeddiad diweddar mai Lynda Sagona fydd y Darpar Gadeirydd, a Martin Reed fydd y Darpar Is-gadeirydd, dechreuodd y broses i benodi aelodau anweithredol o fyrddau presennol Cartrefi Melin a Chartrefi Dinas Casnewydd (CDC).

Hoffem nawr groesawu’r aelodau newydd, fel a ganlyn:

  • Mike Usher (o Fwrdd CDC)
  • Anthony Hearn (o Fwrdd Melin)
  • James Tarrant (o Fwrdd CDC)
  • Sarah Tipping (o Fwrdd Melin)
  • Chris Sutton (o Fwrdd CDC)
  • Claire Marshall (o Fwrdd Melin)
  • Dale Walker (o Fwrdd CDC)
  • Sanni Salisu (o Fwrdd Melin)

Rydym wrth ein bodd y bydd unigolion mor ymroddedig ac angerddol, sydd â chymaint o brofiad helaeth, yn gwasanaethu ar y Bwrdd Interim.

Mae rhagor o wybodaeth am yr aelodau hyn ar gael ar wefannau Melin a CDC.

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld