Rownd Derfynol y Wobr Genedlaethol
Mae Cwrt Tredegar wedi cyrrhaedd y rownd derfynol gwobr IHDA
Ysgrifennwyd gan Sam
—20 Medi, 2023
Mae cynllun gwarchod Tredegar Court wedi’i ddewis ar gyfer rownd derfynol Categori Tai Gwarchod Gorau, Gwobrau Datblygu Cenedlaethol Inside Housing.
Mae'r cyflwyniad yn tynnu sylw at sut mae'r datblygiad £7.5m, a adeiladwyd ar ein cyfer gan Countryside Partnerships, yn bodloni anghenion trigolion ac yn cyfrannu’n gadarnhaol at ein trigolion a'r gymuned leol.
Roedd y gwaith adeiladu yn cynnwys dymchwel 39 o fflatiau un ystafell hen ffasiwn, ac adeiladu 41 o fflatiau ag un ystafell wely a chwe fflat â dwy ystafell wely, yn eu lle.
Fe wnaeth y datblygiad newydd nid yn unig ddod â thrigolion y cynllun at ei gilydd, ond hefyd eu gwneud yn rhan fywiog o’r gymuned. Mae pobl yn mwynhau eu fflatiau eu hunain ac yn defnyddio'r lolfa gymunedol ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol - Roedd parti coroni diweddar yn llwyddiant mawr.
Cafodd rhai o’r bobl a oedd wedi symud i mewn, eu symud i gartrefi eraill tra bod y gwaith dymchwel ac ailadeiladu yn mynd rhagddo, ac roedd rhai yn methu aros i ddychwelyd.
Rydyn ni'n teimlo fel rhan o gymuned eto ac mae'r dyluniad modern yn gwneud i'r fflat deimlo'n fwy. Ni allwn weld unrhyw beth o’i le yn ein cartref newydd.
Teimlad cymunedol
Mae gweld adeilad newydd bob amser yn helpu'r gymuned. Mae hyn wedi'i gynllunio a'i addurno'n chwaethus, mae'n amlwg ei fod yn diwallu anghenion y gymuned.
Buom yn gweithio gyda MK Designs i godi arwyddion sy'n cydymffurfio â safonau'r RNIB a gyda Stanbridge Interiors ar becyn dodrefnu sy'n edrych yn wych, ond mae hefyd yn ymarferol, yn gadarn, ac yn sefydlog i'n trigolion y mae gan rhai ohonynt broblemau symudedd. Ymgynghorwyd â'n trigolion drwy gydol y broses a hwy ddewisodd y lliwiau, sydd wedi cyfrannu at argraff gadarnhaol yr adeilad yn gyffredinol.
Mae arwyddion gwell a chynlluniau lliw gwahanol ar wahanol loriau gyda gwaith celf cyfatebol, yn helpu pobl i wybod y ffordd o amgylch os ydynt yn colli eu cof, ac mae’n rhoi ymdeimlad o le, gyda’r nod o helpu pobl i fyw’n annibynnol am gyfnod hirach.
Mae’n adeilad sydd â Thystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) Gradd A, effeithlon. Cafodd ei adeiladu o ffrâm bren allan o ddefnyddiau lleol, gan wneuthurwr lleol ac mae’n cynnwys uwch system ddraenio gynaliadwy a fabwysiadwyd yn breifat ar y safle, a Phaneli Haul ar y prif do.
Wir i chi, rwy'n teimlo fy mod i mewn gwesty. Mae’n ardderchog. Rwyf wrth fy modd, wrth fy modd, wrth fy modd!