Neidio i ddysgu
Diolch i Gronfa Naid Cartrefi Melin, mae un ysgol gynradd leol wedi derbyn £1000 i wneud amser chwarae yn gyffrous, amgylcheddol-gyfeillgar ac addysgol.
Ysgrifennwyd gan Sam
—24 Medi, 2018
Mae Ysgol Gynradd Griffithstown eisoes yn rhan o fenter Cadw Cymru’n Daclus i adfer glanfa eu camlas, adeiladu pwll a chreu ardal bywyd gwyllt sy’n denu gwenyn. Nawr, diolch i gyfraniadau staff i gronfa gymunedol y gymdeithas dai, y Gronfa Naid, mae disgyblion hefyd wedi elwa o diwbiau fel y rhai yn y Teletubbies. Mae’r twneli hynod yma yn mynd â disgyblion rhwng torlannau o bridd sydd wedi eu creu o’r pridd a gloddiwyd allan wrth wneud y pwll. Maent yn caniatáu i ddisgyblion ddod yn agos at natur. O’r twneli, medrent gropian a chrwydro’r ardd, gweld gwreiddiau planhigion a phryfed genwair yn symud drwy’r pridd. Gall y plant hefyd weld sut mae bywyd o dan y ddaear yn ymateb i ffynonellau o oleuni.
Meddai’r Pennaeth Mr Blackburn: “Mae Melin wedi bod yn wych yn ein cefnogi. Mae’r cyfleoedd addysgol yn hynod ac rydym wirioneddol yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth.”
Ychwanegodd rheolwr y tîm cymunedol ar gyfer Cartrefi Melin, Caroline Morgan: “Roedd hwn yn syniad gwirioneddol unigryw a chreadigol i annog ac ysbrydoli pobl ifanc yn ein cymdogaethau i ddysgu am eu hamgylchedd a rhoi hwb i’w gwybodaeth. Roeddem wrth ein boddau yn medru helpu’r ysgol i wneud y prosiect cyffrous hwn yn realiti