Noddi Gwobrau Pride of Gwent
Mae Gwobrau Pride of Gwent yn gyfle i dynnu sylw at bobl, grwpiau a chymunedau anhygoel. Dyma ein harwyr di-glod, a ddylai gael eu cydnabod am y gwaith anhygoel maen nhw'n ei wneud.
Ysgrifennwyd gan Fiona
—26 Ion, 2021
Mae Gwobrau Pride of Gwent yn gyfle i dynnu sylw at bobl, grwpiau a chymunedau anhygoel. Dyma ein harwyr di-glod, a ddylai gael eu cydnabod am y gwaith anhygoel maen nhw'n ei wneud.
Mae'r gwobrau'n caniatáu i'r South Wales Argus ynghyd â'u partneriaid, dynnu sylw at Gwent a'r bobl sy'n gwneud gwahaniaeth. Mae rhai wedi achub bywydau, rhai wedi gofalu am eraill ac mae rhai wedi codi symiau enfawr o arian i elusennau neu wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'w cymunedau.
Rydym wedi ymrwymo i greu cymunedau ffyniannus, diwylliant o waith gwych, gwasanaethau a chymorth sy'n canolbwyntio ar drigolion, a rhaglen o ddatblygiadau newydd. Rydym yn parhau i fod yn ymroddedig i wrando ar drigolion a'r cymunedau y maent yn byw ynddynt, ac ymgysylltu â hwy.
Rydym yn deall y gwerth y mae ein harwyr di-glod yn ei ychwanegu at gymdeithas, felly aethom ati i fachu’r cyfle i'w gweld yn cael eu gwobrwyo trwy noddi Gwobrau Pride of Gwent, y South Wales Argus.
Mae'r categori Gwobr i Ofalwyr yn agos at ein calonnau ni a'n Grŵp Anabledd. Mae cydnabod gwaith di-glod gofalwyr yn bwysicach nag erioed a dylid eu cydnabod am y gwaith anhygoel maen nhw'n ei wneud.
Cafodd ein Grŵp Anabledd y penderfyniad anodd o fod yn rhan o farnu’r holl gategorïau. Bydd Natalie Gardner, Cadeirydd ein grŵp trigolion 100Voices yn cyhoeddi enillydd y Wobr i Ofalwyr yn y gwobrau rhithwir ar 11 Mawrth. Meddai Natalie:
“Mae cydnabod gwaith gofalwyr yn ein cymunedau yn rhywbeth sy’n agos iawn at fy nghalon. Yn ystod yr amseroedd anodd hyn mae llawer o ofalwyr wedi gweld cynnydd yn eu cyfrifoldebau, a cheisio dal ati i weithio a delio â'r cyfyngiadau yr ydym i gyd wedi'u hwynebu. Nid yw wedi bod yn hawdd i lawer ohonom, ond gall gofalwyr wynebu pwysau cynyddol ac unigrwydd felly mae cydnabod eu gwaith mewn cymdeithas yn rhywbeth y dylem ni i gyd ei gefnogi.”