Mae ein menter gydnabod newydd ‘Diolch’ nawr ar agor i’n cymunedau
Rydym wrth ein boddau yn cael rhannu’r newyddion y byddwn yn ehangu ein menter gydnabod ‘Diolch’ i’n cymunedau ledled De-ddwyrain Cymru. Mae hyn yn golygu y bydd trigolion Melin nawr yn gallu enwebu eu cymdogion Melin ar gyfer gwobr ‘Diolch’ fel ffordd o ddweud diolch am wneud eu cymuned yn lle gwell.
Ysgrifennwyd gan Will
—16 Mai, 2022
Rydym wrth ein boddau yn cael rhannu’r newyddion y byddwn yn ehangu ein menter gydnabod ‘Diolch’ i’n cymunedau ledled De-ddwyrain Cymru. Mae hyn yn golygu y bydd trigolion Melin nawr yn gallu enwebu eu cymdogion Melin ar gyfer gwobr ‘Diolch’ fel ffordd o ddweud diolch am wneud eu cymuned yn lle gwell.
Beth yw Diolch?
Mae’r fenter Diolch wedi bodoli am nifer o flynyddoedd ym Melin. Mae’n gynllun lle gall pobl enwebu aelodau staff Melin ar gyfer gwobr Diolch i gydnabod pan fyddant yn mynd gam ymhellach yn eu swyddi. Nawr, bydd trigolion Melin yn gallu cael eu henwebu hefyd. Bydd enwebai yn derbyn tystysgrif ac yn cael cyfle i gael Melin i roi cyfraniad £5 ar eu rhan i un o’r elusennau neu brosiectau rydym yn eu cefnogi; Ambiwlans Awyr Cymru, Stump Up for Trees neu Gronfa Jump2 Melin.
Daeth y syniad i ehangu’r fenter Diolch drwy grŵp adborth #GwrandoGweithreduDysgu Melin. Nododd y grŵp, a sefydlwyd i weithredu ar adborth trigolion, nad oedd gennym ffordd o gydnabod y gweithredoedd bob dydd o garedigrwydd sy’n digwydd yn ein cymunedau. Gan fod Diolch wedi gweithio cystal gyda thimau staff Melin, penderfynwyd ehangu hyn ar gyfer ein cymunedau.
Roedd Fiona Williams, sy’n cydgysylltu Diolch ar ran Melin, wrth ei bodd yn gweld y fenter yn tyfu i gyfnod newydd. Meddai: “Mae ehangu Diolch i’n cymunedau yn gam positif iawn i ni wrth i ni geisio gweithio’n agosach fyth gyda’n trigolion.
Gall trigolion enwebu cymydog Melin ar gyfer gwobr Diolch am unrhyw weithred bositif. Efallai eu bod yn hel sbwriel ar y stryd? Helpu gyda’ch gardd neu roi lifft i chi i’r siop? Mae unrhyw beth sy’n gwneud ein cymuned yn lle gwell yn haeddu enwebiad.
Gan edrych ymlaen at yr enwebiadau, ychwanegodd Fiona: “Mae cael un cynllun Diolch yn dod â staff Melin yn agosach at ein trigolion ac yn golygu y gallwn daflu goleuni ar yr holl arwyr yn ein cymunedau nad ydynt yn cael eu cydnabod ar hyn o bryd. Ni allaf aros i weld yr enwebiadau cyntaf er mwyn i ni allu arddangos yr holl bethau positif sy’n digwydd ledled ein rhanbarth!”
Sut all trigolion enwebu cymydog?
Gallwch gyflwyno enwebiad Diolch ar unrhyw adeg drwy ebostio news@melinhomes.co.uk
Rhaid i’r enwebiadau gynnwys yr wybodaeth ganlynol:
- Eich enw a’ch cyfeiriad
- Enw a chyfeiriad eich enwebai, a byddai’n dda cael cyfeiriad ebost neu rif ffôn hefyd.
- Y rheswm am enwebu – mae croeso i chi gynnwys ffotograffau hefyd!