Codi dros £10,000 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru
Cefnogon ni Ambiwlans Awyr Cymru yn ystod 2021 a 2022, fel elusen y flwyddyn. Trwy noddi digwyddiadau, codi arian yn y swyddfa, a chodi arian ar-lein, codi Melin â’n staff hael gyfanswm o £10,854.
Ysgrifennwyd gan Fiona
—09 Chwef, 2023
Mae staff wedi cymryd rhan mewn hanner marathonau, brecwastau elusennol, her Cerdded Cymru, her MY20, raffl a diwrnod golff elusennol i’w helpu i gyrraedd eu targed ac ychydig dros ben.
Cysylltodd Jane o Ambiwlans Awyr Cymru â ni i ddiolch is staff am eu hymdrechion wrth godi arian, gan ddweud;
“Diolch yn fawr am yr holl godi arian ac am eich cefnogaeth! Am swm gwych yr ydych wedi ei godi. Gallwn ni ddim diolch digon i chi.”
Dywedodd Paula Kennedy, Prif Weithredwr Cartrefi Melin;
"Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu’n llwyr ar roddion elusennol er mwyn cadw’r hofrenyddion i fynd, gan arbed amser prin ac achub bywydau. Pleidleisiodd ein staff dros godi arian ar gyfer yr elusen am ddwy flynedd o’r bron, gan eu bod yn cydnabod pan mor bwysig yw’r gwasanaeth.”
Mae £10,854 yn swm anhygoel i’w godi ac rwy’n falch iawn o’n staff am wneud hyn, yn enwedig mewn amserau mor anodd, gyda Covid a’r argyfwng costau byw. Un o’n gwerthoedd yma ym Melin yw ‘Gwnewch Wahaniaeth’ ac, unwaith eto, mae ein staff wedi dangos eu bod yn gallu gwneud hynny.