Parhau i gefnogi Dewi Sant
Rydym wedi dewis Gofal Hosbis Dewi Sant i fod yn Elusen y Flwyddyn ar gyfer 2019 a 2020. Yn y cyfnod anodd hwn, roeddem eisiau parhau i gefnogi felly rhaid oedd meddwl yn arloesol.
Ysgrifennwyd gan Fiona
—24 Ebr, 2020
Cafodd ein Tîm Cyfathrebu y syniad bod staff yn gallu enwebu ein Tîm Arweinwyr a’n Cyfarwyddwyr i gwblhau her. Y cwbl roedd angen iddynt ei wneud oedd cyfrannu arian ar ein tudalen ariannu ac anfon y cais am her i mewn. Os nad oedd yr her yn cael ei chwblhau, byddai’n rhaid i’r sawl a enwebwyd gyfrannu dwbl y swm.
Rydym wedi cael heriau Tik Tok, pwy all ffitio’r nifer fwyaf o falws melys yn eu ceg, brwydrau ymarfer a’r hen ffefryn – yr her bwced o rew.
Mae hyn wedi bod yn boblogaidd iawn ac mewn dau ddiwrnod yn unig rydym wedi codi £500 ychwanegol. Mae cyfanswm yr arian a godwyd nawr yn £7,053.41.
Rydym yn parhau i herio’r tîm a chodi mwy o arian i gefnogi’r elusen wych hon.
Mae staff hefyd wedi elwa o’r syniad i godi arian, gan ddod â thimau at ei gilydd a chreu llawer o chwerthin. Rhywbeth yr ydym yn meddwl y byddwch oll yn cytuno sydd i’w groesawu ar y funud.
Yn y cyfnod heriol hwn, mae wedi bod yn wych gweld yr ymateb i syniad mor syml, gan wireddu ein diwylliant o Gyda’n Gilydd Mi Fedrwn.
Gallwch weld rhai o’r heriau ar ein tudalen Twitter – rydym yn croesawu unrhyw her – does ond angen i chi gyfrannu ychydig i arian ar ein tudalen ariannu yma.
Mae Hosbis Dewi Sant wedi trydar “Rydych yn hynod gyda’r her Tik Tok a hyd yn oed yn well o ran codi arian. Diolch yn fawr am feddwl amdanom – rydych yn sicr wedi rhoi gwen ar ein hwynebau gyda’ch her ddiweddaraf.”
Mae Dewi Sant hefyd yn rhentu siop gennym ym Mhont-y-pŵl, felly fel rhan o’n hymrwymiad i barhau gyda’n cefnogaeth, rydym wedi cytuno cyfnod di-rent o dri mis iddynt gan fod y siop ar gau ar hyn o bryd. Mae hyn yn dod i £3,450 sy’n help mawr iddynt a bydd yn rhoi cyfle iddynt ddefnyddio arian yn gofalu am bobl mewn angen. Dywedodd Adrian Hadley, Dirprwy Brif Weithredwr “Mae hyn yn newyddion gwych, ac mae’r hosbis yn gwerthfawrogi eich haelioni yn fawr iawn”.
Meddai Prif Weithredwr Melin, Paula Kennedy: “Nawr fwy nag erioed rydym yn sylweddol pa mor bwysig yw’r gwaith sy’n cael ei wneud gan Hosbis Dewi Sant ac rydym eisiau parhau i’w cefnogi ar adeg pan nad yw’r rhan fwyaf o’r digwyddiadau codi arian a drefnir ganddynt yn bosibl.”