Polisi Cwcis This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.
Tudalen Breifatrwydd

Yn ôl i newyddion

Peidiwch â chladdu eich pen yn y tywod, siaradwch â ni – Dydyn ni Ddim yn Brathu

Oeddech chi'n gwybod bod gennym dîm ymroddedig o Ymgynghorwyr Ariannol achrededig, sydd yma i'ch helpu i wneud bob punt i gyfrif? Mae'r tîm wedi arbed dros £1.5 miliwn ar gyfer trigolion yn y 18 mis diwethaf ac mae'r gwasanaeth hwn ar gael i bob un o drigolion Melin.

Ysgrifennwyd gan Marcus

25 Mai, 2016

Takl to us – We Don't Bite
Oeddech chi'n gwybod bod gennym dîm ymroddedig o Ymgynghorwyr Ariannol achrededig, sydd yma i'ch helpu i wneud bob punt i gyfrif? Mae'r tîm wedi arbed dros £1.5 miliwn ar gyfer trigolion yn y 18 mis diwethaf ac mae'r gwasanaeth hwn ar gael i bob un o drigolion Melin. Bydd tîm Cyngor Ariannol Melin:



· Yn rhoi cyngor ariannol o'r radd flaenaf ar sut i reoli eich arian cartref.

· Wrth law gyda chyngor sylfaenol am gyllidebu eich arian;

· Yn rhoi cymorth gyda Cheisiadau grant ar gyfer nwyddau cartref hanfodol fel dodrefn a nwyddau trydanol a chymorth i dalu eich biliau.

· Yn cynnig gwasanaeth cyngor cyfrinachol am ddim gan Gynghorwyr Arian achrededig;

· Yn rhoi gwiriad iechyd budd-daliadau am ddim;

· Yn rhoi cyngor rhad ac am ddim wyneb yn wyneb a chyngor dyled arbenigol

· Yn rhoi cymorth gyda thribiwnlysoedd neu apeliadau

· Yn rhoi cyngor ynni rhad ac am ddim a allai eich helpu i arbed arian ar eich biliau;

· Yn rhoi cyngor budd-daliadau arbenigol ar bethau fel Credyd Cynhwysol a'r Cap Budd;

· Yn cynnig help i agor cyfrif banc neu cynilon

· Yn rhoi help derbyn parsel bwyd.



Byddwn yn eich cefnogi o ddechrau eich tenantiaeth drwy gynnig cyngor ariannol arbenigol i chi.


I gael rhagor o gyngor wedi'i deilwra ar eich cyfer , e-bostiwch ein tîm Cyngor Ariannol neu ffoniwch ni yn gyfrinachol ar 01495 745910.


Peidiwch â chladdu eich pen yn y tywod os oes gennych drafferthion arian - siaradwch â ni, dydyn ni ddim yn brathu.


Yn ôl i newyddion