Polisi Cwcis This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.
Tudalen Breifatrwydd

Yn ôl i newyddion

Peidiwch â gadael i’ch prosiect cymunedol golli allan

Mae gan brosiectau cymunedol yng Ngwent tan ddydd Gwener 27ain Ionawr i wneud cais i’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd am gyfran o £250,000 a gipiwyd oddi wrth droseddwyr ac a gafwyd o werthu eiddo coll na hawliwyd yn ôl.

Ysgrifennwyd gan Sam

23 Ion, 2017

Peidiwch â gadael i’ch prosiect cymunedol golli allan


Mae’r cloc yn tician ac mae gan bawb tan ddydd Gwener 27ain Ionawr 2017 i gyflwyno cais am arian o Gronfa Partneriaeth Comisiynydd Gwent, Jeff Cuthbert. Mae’r cynllun grant yn cael ei ariannu gan yr enillion o droseddau sy’n cael eu rhoi i’r heddlu ac o werthu eiddo coll nad sydd wedi ei hawlio gan unrhyw un. Mae’n agored i elusennau, mudiadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol sy’n gweithredu’n gadarnhaol yn eu cymunedau wrth weithio at gyflenwi blaenoriaethau’r Comisiynydd ar yr un pryd.

Gall grŵp wneud cais am rhwng £250 at £10,000 o’r £250,000 sydd ar gael a bydd angen iddyn nhw ddangos sut y bydd eu prosiect yn cyflawni blaenoriaethau’r Comisiynydd sef:

  • Atal Trosedd;
  • Cefnogi Dioddefwyr;
  • Cydlyniad Cymunedol, a;
  • Delio gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol

Ers lansio’r Gronfa Partneriaeth gan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a throsedd Gwent tair blynedd yn ôl gan y Comisiynydd cyntaf, mae bron i £750,000 wedi cael ei rhoi i dros 250 o brosiectau cymunedol ar draws yr ardal. Daeth yr arian oddi wrth droseddwyr y gorchmynnwyd iddyn nhw dalu yn ôl yr enillion o Drosedd Cyfundrefnol a delio mewn cyffuriau.

Yn benodol ar gyfer 2017-18, anelir y gronfa yn bennaf at brosiectau sy’n canolbwyntio ar atal trosedd, cydlyniad cymdeithasol (Cymunedau’n gweithio gyda’u gilydd / grwpiau o neu yn gweithio â lleiafrifoedd ethnig) a diogelu pobl sy’n agored i niwed (e.e. iechyd meddwl / anabledd / yr henoed neu blant a phobl ifanc). Yn rhagweithiol mae’r Comisiynydd yn croesawu ceisiadau am brosiectau sy’n gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog.

Mae rhaio’rprosiectaua ariannwydgyntgan Gronfa Partneriaeth y Comisiynydd yncynnwys:

  • £5,000 i brosiect Vision of Hope Animal Assisted Therapy yn Y Gilwern, Sir Fynwy, i brynu mwy o offer i’r fferm ble maen nhw’n cefnogi pobl ifanc â phroblemau cyffuriau a chyn-droseddwyr;
  • A £3,000 i’r Newport Street Pastors i brynu offer newydd a gwisgoedd i’w gwirfoddolwyr fel y gallan nhw barhau a’u gwaith ar nos Wener a nos Sadwrn o dawelu strydoedd y ddinas a rhoi cymorth i bobl sy’n agored i niwed i gyrraedd adref yn ddiogel.

Mae’rffurflenelectronig a nodiadaucanllawargael o wefan y Comisiynydd www.gwent.pcc.police.uk .Gellircael copïau caledtrwy e-bostioswyddfa’r Comisiynydd ynuniongyrchol ar pccpartnershipfund@gwent.pnn.police.uk neu drwyalw 01633 642 200. Y dyddiadcau ar gyferceisiadau yw 4pm ar ddyddGwener 27ain Ionawr 2017.

Yn ôl i newyddion