Datganiad i’r wasg – Gweithio mewn partneriaeth yw’r ffordd ymlaen
Ysgrifennwyd gan Fiona
—03 Chwef, 2022
Mae prosiect partneriaeth newydd wedi dechrau ar safle ym Mhorthysgewin, Sir Fynwy, ar ôl i gynlluniau gael eu cymeradwyo yn Chwefror 2020. Mae partneriaid o Gartrefi Melin, Candleston (is-gwmni Melin), a Chyngor Sir Fynwy wedi bod yn gweithio ar gynlluniau ar gyfer yr ardal ers 2016.
Budd y prosiect preswyl gwerth £55miliwn a ariennir gan Gartrefi Melin yn gweld yr ardal yn elwa o 269 o gartrefi newydd. Bydd y safle hefyd yn gweld datblygiad cartref gofal a fydd yn cefnogi 32 o bobl sy’n byw â dementia. Cafodd Cyngor Sir Fynwy arian trwy Gronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru trwy Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Wedi ei leoli’n fwriadol yn rhan o'r datblygiad ehangach, bydd y cartref gofal newydd yn galluogi pobl sy’n byw gyda dementia i gysylltu â, a bod yn rhan o’u cymuned. Cynlluniwyd y cartref mewn partneriaeth â Phenseiri Pentan a Chyngor Sir Fynwy.
Bydd y datblygiad ar Crick Road yn elwa o gael mwy o fannau gwyrdd; gerddi hardd, parc, perllan, perthi o gwmpas y ffin a llwybrau troed diogel i’r gymuned gael mynd i’r wlad sydd o gwmpas.
Rydym yn hynod o falch i weld cychwyn y prosiect partneriaeth arloesol newydd yma, wedi ei ariannu’n rhannol gan Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gwent trwy Gronfa Cyfalaf Gofal Integredig Llywodraeth Cymru. Bydd y prosiect yma’n darparu cartref gofal arloesol ar gyfer dementia, a fydd yn cael ei gynnwys mewn datblygiad preswyl ehangach yn Sir Fynwy. Mae’r prosiect wedi ei ddatblygu mewn partneriaeth â sefydliadau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Thrydydd Sector project, a bydd yn dod â buddsoddiad sylweddol, gan gynnwys creu swyddi y bydd croeso mawr iddyn nhw yn yr ardal.
“"Y cynllun pwysig yma yw ein datblygiad mwyaf yn Sir Fynwy ac mae’n dangos y gallwn gyflawni mwy trwy weithio mewn partneriaeth.“ Dywedodd Paula Kennedy, Prif Weithredwr Cartrefi Melin.
“Bydd y cynllun yn creu 68 o gartrefi fforddiadwy yn yr ardal, yn ogystal â 201 o gartrefi ar gyfer y farchnad agored. Rydym wedi gweithio’n galed i sicrhau bod y datblygiad yn ystyried y gymuned leol, gan gyd-fynd â’r cefn gwlad hyfryd, gydag amrywiaeth o opsiynau ar gyfer teithio llesol i annog pobl i gerdded a seiclo yn ogystal â phwyntiau gwefru i geir trydan. Hefyd, trwy weithio gyda’n partneriaid yn Y Prentis byddwn yn cynnig cyflogaeth leol i brentisiaid o’r ardal, gan gynnig sgiliau newydd a gwaith i bobl Sir Fynwy”.
Dywedodd Scott Rooks, Cyfarwyddwr Masnachol Candleston: “Mae hyn yn ddatblygiad newydd anhygoel, ein mwyaf hyd yn hyn ar ôl ein dau ddatblygiad yng Nghoed Glas, Y Fenni a The Grove, Llan-ffwyst. Mae Candleston yn adeiladwyr tai lleol sy’n darparu tai cynaliadwy o safon uchel, gan wneud buddsoddiad tymor hir mewn cymunedau. Bydd datblygiad Crick Road yn cynnig amrywiaeth o gartrefi dwy, tair a phedair ystafell wely ar werth.
“Mae disgwyl i’r cam cyntaf ddechrau yn gynnar yn 2022, gyda’r gwerthiannau cyntaf yn cwblhau yng ngwanwyn 2023.”
Dywedodd y Cynghorydd Penny Jones o Gyngor Sir Fynwy, aelod y cabinet dros Ofal Cymdeithasol:
“Mae ein partneriaeth gyda Chartrefi Melin a Candleston wedi ein galluogi ni i integreiddio cynlluniau ar gyfer y cartref gofal newydd yn y datblygiad tai pwysig yma, gan roi anghenion trigolion yn gyntaf a gosod y gymuned wrth galon y prosiect yma.
“Mae cartref gofal Crick Road wedi ei ddatblygu gan bobl sydd â phrofiad o weithio ym maes gofal preswyl. Y bwriad yw cynnig lle cartrefol i bobl â dementia gael byw eu bywydau mewn lleoliad ble gallan nhw barhau i fwynhau eu diddordebau a chysylltu â’u cymuned,” dywedodd y Cyng. Jones.
“Bydd y cartref gofal yma’n cefnogi 32 o bobl sy’n byw â dementia. Bydd y cartref yn gweld pedair o aelwydydd llai yn cael eu sefydlu, pob un ar y llawr gwaelod, a phob un i wyth o bobl. Y bwriad yw lleihau maint a chreu awyrgylch cyfarwydd sy’n edrych ac yn teimlo fel cartref y byddai unrhyw un ohonom ni’n adnabod. Bydd model newydd o staffio’n canolbwyntio ar fod gyda phobl ac nid gwneud ar eu rhan, gyda theuluoedd yn agos a byddwn yn sicrhau bod trigolion yn cymryd rhan lawn ym mhob agwedd o fywyd pob dydd.”
Dywedodd y Cyng. Peter Fox, Aelod Ward Porthysgewin ar Gyngor Sir Fynwy:
“Rwy’n croesawu’r bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Fynwy a Candleston, gyda’n gilydd byddwn yn cyflenwi cartrefi lleol y mae mawr eu hangen. Mae ychwanegu’r cartref gofal newydd sbon i’w groesawu hefyd a bydd yn dod â buddion anferth i’r ardal ehangach, gan ddiwallu anghenion y rheiny sy’n byw â dementia a chryfhau cysylltiadau cymunedol hyd yn oed ymhellach fyth.”
Bydd y datblygiad yn digwydd dros bum cam, gyda’r datblygwr Lovell yn gyfrifol am y ddau gam cyntaf o’r cynllun dylunio ac adeiladau.
Am ragor o wybodaeth
Cartrefi Melin
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Fiona Williams, Swyddog Cysylltiadau ar 01495 745910 neu drwy e-bost fiona.williams@melinhomes.co.uk
Cyngor Sir Fynwy
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Jan Whitham, Swyddog Cysylltiadau ac Ymgysylltiad trwy e-bost: janwhitham@monmouthshire.gov.uk