Cwblhau prosiect adfywio ym Mhilgwenlli
Mae prosiect adfywio mawr Cartrefi Melin ym Mhilgwenlli, Casnewydd wedi dod i ben. Mae’r datblygiad yn cynnig cartrefi gwarchodedig i bobl 55 oed a throsodd, gyda 41 o fflatiau un ystafell wely a chwe fflat dwy ystafell wely.
Ysgrifennwyd gan Fiona
—05 Hyd, 2022
Cwblhau prosiect adfywio ym Mhilgwenlli
Mae’r safle’n cynnwys ystafell staff, lolfa gymunol a gerddi cymunol dementia-gyfeillgar. Mae’r fflatiau presennol yng Nghwrt Tredegar yn rhannu iard gymunol a lolfa.
Regeneration project at Tredegar Court, Newport
Mae hwn yn gynllun pwysig iawn i ni, ac mae’n cynrychioli buddsoddiad sylweddol yn y ddinas. Hoffwn gymeradwyo’r trigolion presennol sydd wedi aros yng Nghwrt Tredegar tra bod adeiladwaith yn mynd ymlaen am eu hamynedd, rydym yn ei werthfawrogi’n iawn.
“Rydym wedi a byddwn yn parhau i weithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd i ddatblygu arolwg lles i olrhain lles trigolion a deall pa wahaniaeth sy’n dod iddyn nhw trwy fyw yn y cynllun.
“Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru, Vistry Partnerships a Chyngor Dinas Casnewydd am eu cefnogaeth yn ystod adeiladwaith y prosiect. Trwy weithio gyda’n gilydd, rydym wedi dangos bod modd cyflawni pethau mawr. Rydym wedi helpu i greu cymuned gynhwysol gyda rhwydwaith o gefnogaeth i bobl hŷn i helpu i fynd i’r afael ag arwahanrwydd ac unigrwydd, rhywbeth y mae ei angen nawr yn fwy nag erioed.”
Bydd dathliad swyddogol i nodi’r gwaith adfywio sylweddol yn cael ei drefnu yn ystod y misoedd i ddod, ble bydd Llywodraeth Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd, Vistry Partnerships, ynghyd â staff Chartrefi Melin yn cael cwrdd â holl drigolion Cwrt Tredegar i ddysgu o lygad y ffynnon y gwahaniaeth mae’r cynllun wedi gwneud.
Dywedodd Marc Thompson, Rheolwr Gyfarwyddwr Vistry Partnerships:
‘Mae Vistry Partnerships wrth ein bodd o fod yn gweithio gyda Chartrefi Melin a Chyngor Dinas Casnewydd i gwblhau’r cynllun modern yma o ansawdd uchel. Rwy’n falch o waith y tîm wrth greu’r prosiect yma ac rydym yn gobeithio y bydd trigolion y dyfodol yn hapus iawn yn byw yma.’
Dywedodd y Cynghorydd James Clarke, Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros Gynllunio Strategol, Rheoleiddio a Thai: “Mae hyn yn gynllun enghreifftiol sy’n darparu llety o ansawdd uchel, gwell amgylchedd a rhwydwaith o gefnogaeth i drigolion. Mae’n gwneud cyfraniad gwerthfawr i ymrwymiad y cyngor at adfywio ym Mhilgwenlli.
“Rwy’n falch ein bod yn parhau i weithio gyda Chartrefi Melin ar arolwg llesiant trigolion gan y bydd hynny’n dod â gwybodaeth werthfawr iawn. Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi ymwneud â’r cynllun ac rwy’n dymuno’r gorau i drigolion Cwrt Tredegar ar gyfer y dyfodol.”
Dylai pawb fod yn gallu cael cartref fforddiadwy a sefydlog o ansawdd da – felly rwy’n hynod o falch ein bod ni wedi gallu cefnogi’r cynllun yma yng Nghwrt Tredegar gyda £3.86miliwn o arian Llywodraeth Cymru.
“Dylai’r rheiny dros 55 deimlo’n ddiogel, yn gyfforddus ac wedi eu cysylltu â’u cymuned leol. Rwy’n siŵr y bydd yr unedau un a dwy ystafell wely yma nid yn unig yn bodloni gofynion trigolion, ond hefyd yn gwneud gwahaniaeth i ansawdd eu bywyd.