Gwneud gwelyau yn Hammett Court
Ar ddydd Gwener 12fed Tachwedd, cafodd trigolion Hammett Court, Trefynwy weld datblygiad newydd cyffrous ar gyfer y man gwyrdd y tu allan i’w cartrefi. Daeth y contractwyr, Solar Windows Ltd a Robert Price Builders Merchants at ei gilydd i gyflenwi a gosod gwelyau plannu dyrchafedig i’r trigolion.
Ysgrifennwyd gan Will
—29 Tach, 2021
Ar ddydd Gwener 12fed Tachwedd, cafodd trigolion Hammett Court, Trefynwy weld datblygiad newydd cyffrous ar gyfer y man gwyrdd y tu allan i’w cartrefi. Daeth y contractwyr, Solar Windows Ltd a Robert Price Builders Merchants at ei gilydd i gyflenwi a gosod gwelyau plannu dyrchafedig i’r trigolion.
Gan weithio trwy’r bore, gwnaeth y tîm o Solar Windows waith anhygoel wrth adeiladu’r gwelyau a’u llenwi â phridd yn barod i’r trigolion blannu ynddyn nhw. Daeth nifer o’r trigolion chwilfrydig allan i sgwrsio gyda’r gweithwyr yn ystod y bore ac roedden nhw’n llawn clod am eu hymdrechion.
Mae nifer o drigolion Hammett Court yn arddwyr brwd ac felly maen nhw’n awyddus nawr i gael dechrau dewis hadau a phlannu gyda’r gobaith am gynhaeaf helaeth yn 2022!
Diolchodd un a enwyd yn briodol, Jo Gardner, Rheolwr Cynllun yn Hammett Court, i Solar Windows a Robert Price Builders Merchants.
Dywedodd: “Roedd trigolion Hammett Court wrth eu bodd o gael John a’r tîm o Solar Windows yn ôl i helpu i adeiladu’r gerddi dyrchafedig newydd.
“Mae’r gwelyau newydd yn edrych yn anhygoel ac rydym yn edrych ymlaen ar eu gweld yn dod yn fyw ar ôl y gaeaf! Hoffem ddiolch i’r tîm yn Solar Windows a Robert Price Builders Merchants am eu cefnogaeth a’u cymorth – rydym ni i gyd yn ddiolchgar iawn.”
Dywedodd Dean Read, Rheolwr Gwerthiant Masnachol yn Solar Windows: “Mae partneriaeth ar sail onestrwydd ac ymddiriedaeth wedi bod yn allweddol i lwyddiant Solar Windows. Mewn prosiectau adnewyddu, rydym yn gwneud pob ymdrech i ddatblygu perthynas gwaith cydweithredol a blaengar gyda nifer o’n cwsmeriaid sy’n landlordiaid cymdeithasol, ac i gyflawni hyn, rydym bob amser wedi ymgysylltu gyda’u trigolion bob cam o’r ffordd.
“Mewn prosiect diweddar yn Hammett Court, Trefynwy, fe wnaethon ni gyflenwi a gosod drysau tân newydd. Tra’r oeddem ar y safle, fe welon ni fod y trigolion yn arddwyr brwd, felly dyma ni’n meddwl y byddai adeiladu gwelyau dyrchafedig yn y gerddi yn syniad gwych.
“Gweithiodd ein timau Gosodiadau Masnachol trwy’r bore yn adeiladu ac yn paratoi’r gwelyau blodau yn barod ar gyfer plannu ac roedd gan y trigolion ddiddordeb mawr, a oedd yn wych i’w weld.”
Hoffai Melin ddiolch i Solar Windows Ltd a Robert Price Builders Merchants am ymgysylltu â’n trigolion ac am wneud cymuned Melin yn lle mwy braf fyth i fyw ynddi. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda Solar Windows a Robert Price ar brosiectau yn y dyfodol.
“Gweithiodd ein timau Gosodiadau Masnachol trwy’r bore yn adeiladu ac yn paratoi’r gwelyau blodau yn barod ar gyfer plannu ac roedd gan y trigolion ddiddordeb mawr, a oedd yn wych i’w weld.”