Rhian yn Derbyn Gwobr Genedlaethol ‘Arwres Gwres’ am waith gyda thrigolion
Mae Rhian Cook o Gartrefi Melin wedi ei henwi yn Arwres Gwres mewn seremoni wobrwyo arbennig yn Nhŷ’r Cyffredin yr wythnos ddiwethaf.
Ysgrifennwyd gan Marcus
—09 Chwef, 2018
Mae’r gwobrau Arwyr Gwres yn agored i unigolion ledled Cymru a Lloegr ac yn dathlu’r sawl sy’n mynd ymhellach i gael y gydnabyddiaeth maent yn ei haeddu - am helpu pobl yn eu cymuned i fyw mewn cartrefi cynhesach.
Caiff y gwobrau eu cynnal fel partneriaeth rhwng ScottishPower a’r elusen National Energy Action, ac eleni roedd ymgeiswyr cryf iawn, ond llwyddodd y beirniaid i ddewis pymtheg o enillwyr clodwiw.
Anogwyd mudiadau di-elw gan gynnwys awdurdodau lleol, asiantaethau gofal iechyd a chymdeithasol, asiantaethau gwirfoddol a statudol a grwpiau cymunedol i enwebu staff a gwirfoddolwyr ar gyfer y wobr.
Meddai David Bolton, Cyfarwyddwr Cynorthwyol gyda Chartrefi Melin am Rhian: “Rydym yn falch iawn o Rhian ac mae’n glod i’r tîm. Mae Rhian wedi arbed arian ac ynni i gannoedd o drigolion yn y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r wobr hon yn cadarnhau’r hyn rydym eisoes yn ei wybod am waith rhagorol Rhian a’i hangerdd i wneud gwahaniaeth.”
Meddai Maria Wardrobe, Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Chysylltiadau Allanol gyda National Energy Action: “Bob blwyddyn rwy’n cael fy nharo gan yr angerdd a’r dycnwch y mae ein Harwyr Gwres, megis Rhian, yn eu dangos, bob amser yn gwneud mwy na’r galw yn eu swyddi neu fel gwirfoddolwyr di-dâl. Roedd yn bleser eu cyfarfod i gyd a medru dweud da iawn a diolch ar ran y rhai maent yn eu helpu.”