Rhybudd gan Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru ynghylch benthycwyr arian didrwydded
Mae Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru (WIMLU) yn rhybuddio trigolion a allai fod yn ei chael yn anodd cael deupen llinyn ynghyd i beidio â gwneud y camgymeriad o droi at fenthycwyr didrwydded, sydd hyd yn oed yn waeth na benthycwyr diwrnod cyflog ar garreg y drws.
Ysgrifennwyd gan Marcus
—21 Ion, 2016
Mae Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru (WIMLU) yn rhybuddio trigolion a allai fod yn ei chael yn anodd cael deupen llinyn ynghyd i beidio â gwneud y camgymeriad o droi at fenthycwyr didrwydded, sydd hyd yn oed yn waeth na benthycwyr diwrnod cyflog ar garreg y drws. Mae'r benthycwyr anghyfreithlon yn gweithredu heb drwydded credyd defnyddwyr, ac yn targedu pobl sy'n agored i niwed - boed oherwydd tlodi neu ddyled, neu anawsterau yn eu bywydau megis dibyniaeth neu broblemau iechyd.
Mae Uned Betnthyca Arian Anghyfreithlon Cymru (WILMU) yn annog trigolion i sicrhau bod unrhyw un sy'n cynnig benthyg arian yn meddu ar drwydded credyd defnyddwyr. Os ydych wedi dioddef oherwydd benthycwyr didrwydded neu'n credu y gallai fod benthycwr yn gweithredu gerllaw, ffoniwch ar y llinell gymorth 24 awr: 0300 123 3311. Gallwch ffonio'n ddi-enw os ydych yn dymuno. Gallwch hefyd alw ar Tîm Cyngor Ariannol Melin ar 01495 745910 neu e-bostio money.advice@melinhomes.co.uk
Ymweld â gwefan Cyngor Caerdydd i gael mwy o wybodaeth a chyngor gan Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru.