Rydym wedi Ennill!
Rydym wedi ennill Gwobr Lle Gorau i Weithio y South Wales Argus. Wrth gwrs, roeddem eisoes yn gwybod hyn, ond roedd cael cydnabyddiaeth gan yr Argus yn wych. Da iawn i bawb arall a enillodd a’r terfynwyr ar y noson, roedd yn ddigwyddiad rhagorol.
Ysgrifennwyd gan Fiona
—18 Tach, 2019
Wrth gwrs, roeddem eisoes yn gwybod hyn, ond roedd cael cydnabyddiaeth gan yr Argus yn wych. Da iawn i bawb arall a enillodd a’r terfynwyr ar y noson, roedd yn ddigwyddiad rhagorol.
Rydym yn gwybod bod ein staff wrth eu boddau yn gweithio gyda Melin! Rydym yn gwbl ymroddedig i gefnogi ein staff, rydym yn buddsoddi yn ein pobl ac yn creu diwylliant egnïol. Rydym yn hynod falch o fod yn rhif 11 ar Restr 100 o’r Sefydliadau Di-elw Gorau i Weithio Iddynt y Sunday Times ac rydym yn defnyddio’r broses hon i’n helpu ni i wella o flwyddyn i flwyddyn a gwneud Melin yn lle gwell i weithio.
Rydym yn byw yn ôl ein gwerthoedd cryf ac yn sicrhau bod ein staff yn cael eu gwerthfawrogi a’n bod yn gwrando arnynt. Mae gennym lawer o weithgorau staff a digwyddiadau corfforaethol cyffrous i sicrhau bod pawb yn gallu cyfrannu tuag at wneud Melin yn lle gwych i weithio.
Dyma’r hyn sydd gan ein staff i’w ddweud:
“Mae gan Melin ethos teuluol gwirioneddol ac rwy’n falch o chwarae fy rhan i’w wneud y sefydliad llwyddiannus y mae.”
“Mae gan Melin ddiwylliant gwych, pobl gwych a gweledigaeth i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau’r trigolion a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.”
Rydym yn arbennig o angerddol o ran gofalu am les corfforol a meddyliol ein staff ac am yr wyth mlynedd diwethaf, rydym wedi rhedeg menter o’r enw Zest. Mae Zest yn cynnig ystod o weithgareddau a chefnogaeth megis côr staff, tylino, ffrwyth, brecwast a chinio iach, cymorth i golli pwysau, gwersi iaith, gwasanaeth cwnsela hunan-gyfeirio a mwy. Rydym yn mabwysiadu dull cynhwysol i’r holl staff ac yn cynnal nifer o ddigwyddiadau corfforaethol mawr gan gynnwys barbeciw staff a gŵyl les fawr, Zest Fest.
Os hoffech chi fod yn rhan o Sefydliad mor wych, cadwch eich llygaid ar ein tudalen recriwtio.