Rydym yma i chi
Yn y chwe wythnos o’r cyfnod clo, rydym wedi bod yn helpu llawer o’n trigolion mewn gwahanol ffyrdd. Yn ystod y cyfnod hwn rydym yn dal wrth law i helpu gyda gwaith trwsio brys, gwneud yn siŵr bod ein preswylwyr sy’n agored i niwed yn iawn, a chynnig cyngor ariannol. Dysgwch sut i …
Ysgrifennwyd gan Valentino
—13 Mai, 2020
- Rydym wedi ymgymryd â 1,260 o atgyweiriadau brys.
- Rydym wedi cael £774,493 mewn enillion ariannol i breswylwyr.
- Wedi galw ar fwy na 1,800 o breswylwyr sy’n agored i niwed i weld sut maent, a’u helpu yn unol â hynny.
- gyda chyngor ar arian, ynni a chyflogaeth;
- ymgymryd â gwaith trwsio brys;
- gyda pheth gwaith cynnal a chadw tiroedd;
- aros yn ddiogel – mae ein Tîm Diogelwch Cymunedol yn parhau i weithio gyda chi a’r heddlu;
- sicrhau bod eich cartref yn ddiogel – mae archwiliadau diogelwch trydan a nwy yn parhau;
- i gael yr holl help a’r cymorth rydych ei angen i gynnal eich tenantiaethau ac aros yn iach.
Dywedodd un o’n preswylwyr wrthym: ”Roedd eich gwasanaeth yn wych wrth wneud gwaith trwsio brys. Rwy’n hapus iawn bod yn un o breswylwyr Melin.”
Rydym hefyd wedi bod:
- yn dathlu gweithredoedd o garedigrwydd gyda’n Harwyr Cyfnod Clo;
- dosbarthu cardiau post wedi eu hysgrifennu â llaw;
- defnyddio technoleg yn greadigol;
- creu prosiectau celfyddyd cymunedol;
- cefnogi partneriaid mewn awdurdodau lleol ac yn y Bwrdd Iechyd.
Dywedodd preswylydd arall wrthym: “Mae’r help a’r cymorth rwyf wedi ei gael o’r radd flaenaf. Diolch am bopeth rydych yn ei wneud.”
Os gallwn eich helpu chi, cysylltwch a ni drwy ebost enquiries@melinhomes.co.uk neu ar y ffôn ar 01495 745910.