Rydyn ni’n dathlu pen-blwydd ein menter Iechyd a Llesiant, Zest, yn 5 oed!
Rydym yn dathlu 5ed pen-blwydd ein menter Iechyd a Llesiant ‘Zest!’, sydd wedi ennill gwobrau. Buom yn siarad â Sharon Crockett, arweinydd Zest i gael gwybod am y rhaglen.
Ysgrifennwyd gan Valentino
—14 Medi, 2016
Rydyn ni’n dathlu pen-blwydd ein menter Iechyd a Llesiant, Zest, yn 5 oed!
Rydym yn dathlu 5ed pen-blwydd ein menter Iechyd a Llesiant ‘Zest!’, sydd wedi ennill gwobrau. Buom yn siarad â Sharon Crockett, arweinydd Zest i gael gwybod am y rhaglen.
Pam fu i ni greu Zest?
Digwyddodd Zest oherwydd bod gennym angerdd a brwdfrydedd i wella iechyd a llesiant ein staff. Cychwynnodd yn fach, ond roedd yr uchelgais yn fawr, felly daeth grŵp o staff ac aelodau’r bwrdd at ei gilydd i ffurfio grŵp Zest, sydd wedi cyfarfod bob mis ers hynny i gynllunio’r holl weithgareddau a gweithredu fel llysgenhadwyr ar gyfer y grŵp.
Beth wnaethon ni?
Mae gan Zest raglen eithaf eang o ddigwyddiadau y gall yr holl aelodau staff gymryd rhan ynddi, gan gynnwys cefnogi amrywiol ymgyrchoedd cenedlaethol megis Stopio Smygu; amrywiol ymgyrchoedd Canser; Iechyd Meddwl; y Galon, Asthma a Diabetes. Mae hyn yn cynyddu ymwybyddiaeth ymhlith staff ac yn eu hannog i ledaenu’r gair i’w teuluoedd a’u ffrindiau hefyd. Rydym wedi newid sut rydym yn gwneud pethau, gyda gwaharddiad llwyr ar smygu ac rydym yn rhoi hyfforddiant ychwanegol a sesiynau mentora i’n rheolwyr i’w helpu i ddelio â straen. Mae Melin hefyd yn cefnogi staff trwy ddarparu yswiriant iechyd ac archwiliadau iechyd.
Mwy na thebyg, un o’r pethau mwyaf hwyliog am Zest yw’r holl ddigwyddiadau Iach rydym y eu cynnal. Rydym wedi cynnal digwyddiadau Iechyd cyffredinol megis hyrwyddo brecwast, ffrwyth am ddim, gwersi coginio iach, reiki, yoga, tylino, wal ddringo, grwpiau cerdded, ymgyrchoedd yfed digon, hypnotherapi ar gyfer colli pwysau a stopio smygu, sesiynau hyfforddwr personol, ymwybyddiaeth ofalgar, ysgrifennu creadigol, cynghori, rhaglenni rheoli pwysau a gwersi nofio a chanu am ddim. Mae’n ffordd wych o roi cynnig ar rywbeth newydd neu flasu bwyd nad ydych wedi ei gael o’r blaen.
Mae gan Zest ei gôr ei hun hyd yn oed, a sefydlwyd yn 2013 a’i alw’n “Zing”. Tipyn o hwyl oedd i ddechrau i adael i’r staff gael rhyddhau ychydig o straen amser cinio, ond mae wedi bod mor llwyddiannus fel bod Zing wedi perfformio i’n trigolion ac mewn digwyddiadau eithaf mawr gan Melin. Mae Melin hefyd yn rhedeg cynllun Beicio i’r Gwaith ac ym mis Chwefror 2014, cefnogodd Zest hwn trwy adeiladu storfa feiciau drws nesaf i’n swyddfeydd, a hefyd rydym wedi llwyddo prynu mwy o feiciau i annog mwy o staff i feicio i’r gwaith.
Rydym hefyd wedi ymuno â Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, Heddlu Gwent a Chyngor Torfaen i lofnodi’r adduned iechyd meddwl ‘Amser i Newid’ Cymru, sy’n ymrwymo i leihau gwahaniaethu ar sail iechyd meddwl. Cynhaliwyd ymgyrch iechyd meddwl bum mis o fis Ionawr 2015 a ddaeth i ben gyda mis ymwybyddiaeth iechyd meddwl trwy gydol mis Mai. Fel rhan o’r ymgyrch hon, bu i ni greu cysylltiadau cryfach gyda Mind Torfaen a Blaenau Gwent a chyflwyno gwasanaeth cynghori hunan-gyfeirio i’r holl staff i gael gwared â’r rhwystr o orfod gofyn am help, ac mae’r gwasanaeth yn dal i fynd ymlaen.
Sut mae lledaenu’r gair?
Mae staff yn cael gwybod am weithgareddau Zest mewn amrywiol ffyrdd. Mae gennym ein cylchlythyr ein hunain ac rydym yn anfon hwnnw allan, ac rydym wedi llwyddo cael tudalen benodol ar ein mewnrwyd. Mae’r hysbysfyrddau o gwmpas y swyddfeydd hefyd yn ffordd wych o ddweud wrth bobl beth sy’n digwydd ac wrth gwrs mae gennym ein nwyddau wedi eu brandio megis poteli dŵr a phlicwyr ffrwythau sydd ar gael i’r staff i gyd.
Beth wnaethom ni i ddathlu’r pum mlynedd gyntaf?
Mae llawer o ddigwyddiadau wedi eu cynnal yn y swyddfa, o frecwast iach, dosbarthiadau ymarfer, archwiliadau iechyd, tylino a ffrwythau am ddim. At ddiwedd y gwyliau haf, cynhaliwyd un o’n digwyddiadau mwyaf a mwyaf llwyddiannus erioed. Gwelodd Zest yn y Parc gannoedd o bobl o’n cymunedau yn ymuno yn yr hwyl a chael llwythi o awgrymiadau am iechyd da a phethau am ddim. Cafodd pawb a ddaeth wybodaeth, nid yn unig am Zest a Melin, ond hefyd am iechyd a llesiant gan bobl fel Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen a Hyfforddiant Beicio Cymru. Roedd yn ddiwrnod gwych ac roeddem wrth ein boddau’n cael cyfarfod pawb a lledaenu’r gair.
Felly beth ddigwyddiad o ganlyniad i Zest?
Mae Zest wedi dod yn rhan bwysig o fywyd gwaith pawb ym Melin. Mae ein timau staff wedi dod yn fwy egnïol, wedi stopio smygu, yn bwyta’n iachach, yn teimlo llai o straen, ac maent hefyd wedi cael hwyl yn rhoi cynnig ar weithgareddau amrywiol, dysgu am iechyd a llesiant. Mae hyn wedi gweld gostyngiad yn lefelau salwch staff Melin, gwell cyfranogiad staff a lefelau boddhad staff uwch. Mae’n brosiect y mae pawb wrth ei fodd gydag ef ac mae wedi cyffwrdd pawb, un ffordd neu’r llall.
Rydym wedi cynnal ambell her gweithgaredd dros y flwyddyn ddiwethaf hefyd, ac mae staff wedi cynyddu eu lefelau gweithgaredd o ganlyniad. Yn yr un ddiwethaf, gwnaeth 68 o bobl dros 3,583 awr o weithgaredd mewn cyfnod 8 wythnos, a oedd yn llwyddiant anhygoel ac fe gafodd pawb eu bod wedi cynnal y lefelau hyn wedyn, o ganlyniad i’r sialens.
Ond beth mae pobl yn ei feddwl go iawn?
Mae staff wirioneddol yn meddwl fod Zest yn wych, maent wrth eu boddau. Rydym yn gwneud arolwg staff bob blwyddyn a’r llynedd dywedodd 96% ohonynt ein bod yn ofalgar o ran eu llesiant cyffredinol a dywedodd 97% bod Zest wedi eu hannog i gadw at fywyd iach. O’r holl weithgareddau y mae Zest yn eu cynnal i’r staff, mae 94% yn ystyried eu bod yn ddefnyddiol a dywedodd 97% bod Melin yn ymroddedig i wella eu hansawdd bywyd.
Nid yn unig y staff sy’n ystyried bod Zest yn wych. Rydym wedi ennill gwobrau cenedlaethol hynod, gan gystadlu yn erbyn cwmnïau eithaf mawr. Yn 2012 cawsom Wobr Rheoli Pobl ar gyfer Iechyd a Llesiant gan y Sefydliad Siartredig ar gyfer Personél a Datblygiad. Dywedodd y beirniaid ein bod wedi datblygu amrediad anferth o ddigwyddiadau yn darparu ymwybyddiaeth ariannol ac addysgol a rhoi cymorth i staff a chwsmeriaid, rhywbeth yr oedd y beirniaid yn ystyried oedd yn dangos yn glir sut roedd llesiant wedi ei wreiddio yn ein diwylliant, ein gwerthoedd a’n cenhadaeth. Yna yn 2013, cafodd Melin Aur yn y Safonau Iechyd Corfforaethol, gan fynd ymlaen i ennill y Platinwm yn 2015. Dywedodd ein haseswr ein bod wedi gosod safon uchel i eraill ei hefelychu a bod yr holl aelodau staff yn cymryd cyfrifoldeb am eu hiechyd a’u llesiant eu hunain ac eraill.
Beth yw’r dyfodol i Zest?
Gyda’r brwdfrydedd y mae’r staff yn ei ddangos tuag at bopeth, nid yw’n ymddangos bod Zest am stopio hyd yn oed ar ôl 5 mlynedd, felly mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair. Ein bwriad yw parhau i wneud hyn i gyd i’n staff ac rydym am ledaenu ychydig o hud Zest o gwmpas ein cymunedau i gyd a mwy o’n trigolion. Hefyd, rydym newydd gael ein masgot ein hunain ar ffurf Oren, felly disgwyliwch ei gweld allan yn y gymuned yn dweud wrth bawb am y gwaith rhagorol rydym yn ei wneud.