Sefyll ynghyd i drechu unigrwydd
Rydym wedi ymuno â thair cymdeithas tai lleol a’r Sefydliad Iechyd Meddwl i leihau unigrwydd ac arwahanrwydd ymhlith ein trigolion hŷn.
Ysgrifennwyd gan Sam
—06 Chwef, 2019
Roedd ymweliad cyntaf y cynllun â chynllun gofal ychwanegol Melin, Tŷ Cae Nant yng Nghwmbrân ar Chwefror 5ed ble ddaeth grŵp o drigolion ynghyd gyda dau hyrwyddwr cyfeillgar a drefnodd ‘sesiwn dod i’ch ‘nabod’ gan edrych ar ystyr enwau pawb. Ar ddiwedd y sesiwn roedd pawb wedi dysgu llawer mewn am ei gilydd gan fod y sesiwn wedi helpu i hybu’r sgwrs. Aeth y sgwrs o Mykonos i Ferthyr gan rannu atgofion o bob math o sgwrio aelwydydd at doiledau y tu allan a thrwsio hosanau.
Bydd Standing Together yn creu 30 o grwpiau cefnogaeth er mwyn gwella lles 450 o drigolion dros 55 oed mewn tai ymddeol ar draws de ddwyrain Cymru.
Diolch i arian gan Loteri Fawr Cymru rydym wedi recriwtio tîm o bedwar i hyfforddi a chefnogi 60 o wirfoddolwyr a fydd yn galluogi’r grwpiau i barhau ac i gael eu rhedeg gan y trigolion eu hunain unwaith bydd y cynllun tair blynedd yn dod i ben.
Mwynhaodd trigolion Tŷ Cae Nant eu cyfarfod cyntaf yn fawr iawn ac maen nhw’n edrych ymlaen at eu sesiwn nesaf.
Dywedodd Paula Williams, Cydlynydd Byw’n Annibynnol: “Roedd yn wych gweld pa mor gyflym ddaeth pobl i siarad, a doedd dim un person nad oedd yn ymuno. Rhoddodd y grŵp gyfle gwych i adeiladu perthynas rhwng staff a thrigolion a hefyd i drigolion arwain y sgwrs a’r gweithgareddau.”