Sgâm bil ynni Nwy Prydain
Mae sgâm newydd yn targedu pobl drwy gyfrwng biliau cyfleustodau Nwy Prydain ffug. Gall e-byst sy’n edrych yn ddilys sy'n honni ei fod gan Nwy Prydain gyda bil cyfleustod gynnwys firws a fydd yn cymryd drosodd eich cyfrifiadur.
Ysgrifennwyd gan Valentino
—12 Awst, 2016
Mae sgâm newydd yn targedu pobl drwy gyfrwng biliau cyfleustodau Nwy Prydain ffug. Gall e-byst sy’n edrych yn ddilys sy'n honni ei fod gan Nwy Prydain gyda bil cyfleustod gynnwys firws a fydd yn cymryd drosodd eich cyfrifiadur.
Mae sgâm newydd yn targedu pobl drwy gyfrwng biliau cyfleustodau Nwy Prydain ffug. Gall e-byst sy’n edrych yn ddilys sy'n honni ei fod gan Nwy Prydain gyda bil cyfleustod gynnwys firws a fydd yn cymryd drosodd eich cyfrifiadur. Unwaith bydd y firws ar eich cyfrifiadur mae'n eich cloi chi allan ac yna yn eich cyfeirio at dudalen talu ar-lein. Yna bydd yn gofyn i chi am arian i adennill mynediad at eich cyfrifiadur. Credir bod y sgâm yn tarddu o Rwsia, ond yn targedu cannoedd o filoedd o deuluoedd Prydeinig yn ogystal â busnesau, ysgolion ac ysbytai.
Sut ydw i'n adnabod y sgâm?
Mae'r negeseuon e-bost wedi cael eu disgrifio gan arbenigwyr i fod yn hynod ddilys. Maent yn cael eu hanfon o gyfeiriad sy'n cynnwys Nwy Prydain yn yr enw ac mae'r negeseuon e-bost yn cynnwys y brandio cwmni cywir. Gyda’r enw “Eich bil haf nwy a thrydan"/”Your summer gas & electricity bill” mae’r e-bost yn cynnwys y ffigur y mae’n honni sy’n ddyledus a dyddiad ar gyfer pryd y mae'n rhaid iddo gael ei dalu. Mae yna ddolen i weld y bil - peidiwch â chlicio ar y ddolen hon! Os cliciwch ar y ddolen rydych yn cael eich cymryd i wefan lle dywedir wrthych gallwch lawr lwytho ffeil yn cynnwys eich bil. Dyma’r ffeil sy'n cynnwys y feirws.
Mae Nwy Prydain wedi dweud wrth gwsmeriaid bod negeseuon e-bost dilys yn cael eu personoli i'r cwsmer a bydd yn cynnwys eu rhif y cyfrif. Os nad ydych yn siŵr os ydy e-bost yn ddilys ai peidio, ffoniwch Nwy Prydain (0800 048 0202) i wirio cyn i chi glicio unrhyw gysylltiadau o fewn yr e-bost. "Gall unrhyw gwsmer sy'n pryderu am neges e-bost gwe-rwydo ei anfon ymlaen i phishing@centrica.com" dywedodd llefarydd ar gyfer Nwy Prydain. Mae'r cwmni wedi cau un gwefan i lawr sy’n gysylltiedig â'r sgâm pridwerth ac mae'n gweithio i gau’r sgâm i lawr yn gyfan gwbl.