STAR
Efallai y byddwch yn derbyn arolwg adborth STAR yn ystod y dyddiau nesaf. Eleni bydd yr arolwg yn holi llai o gwestiynau ac yn cymryd llai o'ch amser.
Ysgrifennwyd gan Marcus
—09 Tach, 2018
Fel yr ydym wedi gwneud dros y pedair blynedd diwethaf, rydym yn defnyddio cwmni ymchwil annibynnol, Arena Partnership, i gynnal arolwg ar ein rhan. Felly, dywedwch wrthym beth ydych chi'n ei feddwl ohonom a chymerwch yr amser i gwblhau'r arolwg.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, os byddai'n well gennych gael cyfweliad dros y ffôn neu os hoffech yr arolwg mewn iaith neu fformat arall, cysylltwch â'n Tîm Cyswllt Cwsmeriaid ar 01495 745910 neu gallwch e-bostio enquiries@melinhomes.co.uk neu anfonwch neges i ni ar Facebook.
Fel diolch am gymryd yr amser i lenwi'r holiadur, byddwn yn eich cynnwys mewn raffl i ennill £200 o dalebau siopa.