Cefnogi’r rhaglen profiad gwaith gwirfoddol ‘50PLWS’
Mae helpu i roi cyfleoedd i bobl o’n cymunedau i gael gwaith yn rhan bwysig o’n gwaith fel cymdeithas tai. Yn aml mae pobl yn meddwl am bobl sy’n chwilio am waith fel pobl iau, ond, oherwydd demograffeg newidiol, costau byw ac effaith y pandemig, mae mwy o bobl nag erioed yn chwilio am gyfleoedd gwaith. Felly, penderfynodd tîm Cyngor Melin weithio gyda’r Adran Waith a Phensiynau (AWPh) i hwyluso lleoliadau profiad gwaith gwirfoddol yn ein timau o dan Gynnig Dewisiadau 50PLWS yr AWPh.
Ysgrifennwyd gan Will
—08 Ebr, 2024
I gefnogi’r fenter hon, cynhalion ni gyfweliadau yng Nghanolfannau Gwaith Pont-y-pŵl; Cwmbrân a Chasnewydd. Yn ystod y sesiynau, cafodd rhai oedd am hawlio 50PLWS wybod am amrywiaeth o gyfleoedd oedd ar gael: o waith gweinyddol at swyddi gofal a gwaith llaw. Cafodd y rheiny oedd â diddordeb gefnogaeth i gwblhau ffurflen gais ac aethon nhw drwy gyfweliad anffurfiol cyn cael adborth, neu gynnig o leoliad gwaith.
Mae nifer o ymgeiswyr nawr wedi dechrau lleoliadau gwaith gyda ni ac yn ddiweddar, ymwelodd Hyrwyddwr 50PLWS yr AWPh, Angela Jones, ag un o’r gwirfoddolwyr yr wythnos yma i weld eu hynt.
Clywodd Michelle am gyfleoedd Melin gan ei hyfforddwr gwaith a chofrestrodd yn syth ar gyfer y sesiwn gwybodaeth er mwyn cael gwybod mwy. Gwelodd y gallai lleoliad profiad gwaith gwirfoddol gyda chyflogwr lleol fod yr union beth i’w chefnogi i ddychwelyd at waith ar ôl y pandemig. Roedd Michelle wedi gweithio mewn swyddi gweinyddol o’r blaen, ond roedd hi’n teimlo bod rhaid iddi adnewyddu ei sgiliau, magu ei hyder a chael cyfle i ddysgu sgiliau newydd.
Mae’n hyfryd bod yn ôl mewn swyddfa. Mae wedi bod yn fuddiol i fi adnewyddu rhai o fy sgiliau a dysgu rhai newydd hefyd. Mae’r menywod yma ym Melin yn wirioneddol gefnogol. Os ydych chi mewn twll, does dim angen poeni ynglŷn â gofyn am help - maen nhw wedi bod yn wirioneddol groesawgar.
Fel llawer o bobl 50PLWS, roedd gan Michelle gyfrifoldebau teuluol, ond roedd ein dulliau gwaith hyblyg yn ei galluogi i wirfoddoli o amgylch ei bywyd prysur. Mae hi ar hyn o bryd yn gweithio dau ddiwrnod a hanner, ac mae’n teimlo fod hyn yn ddelfrydol. Mae Michelle yn teimlo y bydd y profiad gwaith perthnasol yma; hyder o’r newydd; sgiliau newydd a CV gwell yn siŵr o wella’i chyfle o ddychwelyd i’r gwaith yn y dyfodol agos.
Roedd Kirsty Crosby, Arweinydd Tîm Cydymffurfiad, sydd wedi bod yn goruchwylio gwirfoddoli Michelle, wrth ei bodd o gael Michelle ar y tîm. Dywedodd: “Mae Michelle wedi bod yn ased gwych i’r tîm cydymffurfiad ac mae hi wedi bod yn wirioneddol ymrwymedig a diwyd yn ei hamser gyda ni.”
Llongyfarchiadau i Michelle ar wneud cymaint o argraff ac rydym yn gobeithio bod eich amser gyda Melin yn eich helpu i ddatgloi cyfleoedd cyffrous am yrfa yn y dyfodol.