Tuniau i Gyd!
Mae ein staff mor hael yn rhoi cannoedd o duniau a chalendrau Adfent i gefnogi Banc Bwyd Cwm y Dwyrain.
Ysgrifennwyd gan Fiona
—17 Tach, 2017
Mae Banciau Bwyd yn gweld cynnydd yn y bobl sydd angen eu cefnogaeth ac maen nhw angen cyfraniadau’n fawr iawn. Os allwch chi roi bwyd neu wirfoddoli pam na ewch chi i wefan Ymddiriedolaeth Trussell. Maen nhw’n gweithio gyda chymunedau ac eglwysi i ddarparu banciau bwyd lleol a helpu stopio newyn yn y DU. Os ydych chi angen taleb ar gyfer banc bwyd, bydd angen i chi gael eich atgyfeirio, am wybodaeth fwy manwl ewch i wefan Ymddiriedolaeth Trussell. Mae banciau bwyd yn gweithio gyda phobl broffesiynol amrywiol ar y rheng flaen sy’n gallu eich atgyfeirio; fel meddygon, ymwelwyr iechyd, gweithwyr cymdeithasol, cymdeithasau tai a Chyngor ar Bopeth. Mae Ymddiriedolaeth Trussell wedi gweithio gyda maethegwyr i sicrhau bod parseli bwyd yn cynnwys digon o faeth ar gyfer o leiaf tri diwrnod o brydau iachus ar gyfer unigolion a theuluoedd.
Dywedodd Alan o Fanc Bwyd Cwm y Dwyrain; “Mae Cefnogaeth Melin wedi bod yn anhygoel. Doedden ni ddim yn gallu credu pan aethon ni i gasglu’r bwyd i gyd. Bydd hyn yn helpu cymaint o bobl, diolch.”
Dywedodd Prif Weithredwr Cartrefi Melin, Paula Kennedy; “Mae’n fraint i Melin i gefnogi achos mor deilwng. ‘Allaf i ddim diolch digon i’r staff am eu haelioni. Mae rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned leol yn bwysig iawn i ni.”