Polisi Cwcis This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.
Tudalen Breifatrwydd

Yn ôl i newyddion

Ni yw'r cyntaf i ennill statws 'Arweinydd' mewn nod cydraddoldeb cenedlaethol

Ni yw'r landlord cymdeithasol cyntaf yng Nghymru i ennill statws 'Arweinydd' mewn nod cydraddoldeb ac amrywiaeth uchel ei fri a gydnabyddir yn genedlaethol.

Ysgrifennwyd gan Fiona

09 Awst, 2024

Alicja Zalesinska a Phrif Swyddog Gweithredol Melin, Paula Kennedy, yn sefyll wrth arwydd Melin ac mae Paula yn dal y dyfarniad

Dyfarniad Arweinwyr QED, a ddatblygwyd gan Tai Pawb, yw cam nesaf y Dyfarniad QED gwreiddiol, ac mae’n cynnig fframwaith cynhwysfawr er mwyn gwella effaith sefydliad o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac, yn benodol, yn cydnabod ei rôl fel arweinydd yn y maes.

Cyrhaeddiad trawiadol arall

Ni hefyd oedd y landlord cymdeithasol cyntaf yng Nghymru i ennill y Dyfarniad QED arloesol yn 2017, ac mae wyth landlord cymdeithasol arall wedi ymuno â ni yn y saith mlynedd ganlynol (Cartrefi Cymoedd Merthyr, Tai Cymunedol Cynon Taf, Cymdeithas Tai Merthyr Tudful, Cadwyn, Newydd, Cymdeithas Tai Rhondda Cymru, First Choice Housing a Chymdeithas Tai Gogledd Cymru).

Dyfernir Dyfarniad Arweinwyr QED gan banel annibynnol, ac mae’n ystyried meysydd o fewn y busnes fel diwylliant a strategaeth, yn ogystal â phrofiadau cwsmeriaid, cydweithwyr a'r gymuned ehangach. Mae yna bedair elfen sy’n benodol i'r categori Arweinwyr, ac sy’n mynd ymhellach na’r dyfarniad cychwynnol, sef:

  • Arwain, sy'n edrych ar sut y mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn cael eu gyrru gan y bwrdd a’r arweinwyr
  • Cynnwys, sy’n ystyried a yw'r sefydliad yn dod yn fwy amrywiol ai peidio, a sut y mae'n sicrhau bod pawb yn teimlo'n ddiogel ac wedi’u gwerthfawrogi
  • Gwrando, i sicrhau bod y busnes yn gweithredu ar sail barn cydweithwyr, cymunedau a phreswylwyr amrywiol
  • Ymarfer, trwy ddatblygu prosiect cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wedi’i deilwra’n arbennig, i sicrhau gwelliant ar gyfer grŵp penodol o bobl neu randdeiliaid

Wrth wneud hynny, mae aseswyr wedi edrych yn fanwl ar ddata o arolygon staff ac arweinyddiaeth, hunanasesiad cadarn gan Melin a herio adeiladol gan gydweithwyr yn Tai Pawb.

Gan mai ni yw'r cyntaf i ymgymryd â'r Dyfarniad Arweinwyr, rydym wedi gallu rhoi mewnwelediadau gwerthfawr dros y 18 mis diwethaf a fydd yn llywio'r gwaith wrth symud ymlaen.

Wrth sôn am y lwyddiant, dywedodd Prif Weithredwr Melin Homes, Paula Kennedy:

“Rwy'n hynod falch o'n cyraeddiadau - mae bod y gymdeithas tai gyntaf i dreialu Dyfarniad Arweinwyr QED, a’i hennill, yn rhagorol, ac yn dyst i waith caled pawb sy'n gysylltiedig, a’n hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae gennym bartneriaeth mor gadarnhaol gyda Tai Pawb, ac mae eu cefnogaeth a'u hymgysylltiad trwy gydol y broses wedi bod yn amhrisiadwy.

“Mae'r broses Arweinwyr QED wedi ein galluogi i wella ein dull gweithredu, a’i gyfoethogi, ar draws y gymdeithas, gan wella amrywiaeth wrth recriwtio, yn benodol, a’n helpu i adeiladu amgylchedd mwy cynhwysol ac amrywiol ar gyfer ein staff a'n preswylwyr. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn rhan annatod o'n cymdeithas ac mae wrth wraidd popeth a wnawn.

Edrychwn ymlaen at barhau â'n partneriaeth â Tai Pawb, gan wella’n barhaus a pharhau i adeiladu ar ein llwyddiant.

Paula Kennedy — Prif Weithredwr Cartrefi Melin

Ychwanegodd Alicja Zalesinska, Prif Weithredwr Tai Pawb:

“Llongyfarchiadau enfawr i Gartrefi Melin ar fod y landlord cymdeithasol cyntaf yng Nghymru i ennill Dyfarniad Arweinwyr QED.

“Mae staff, aelodau’r bwrdd a thenantiaid Cartrefi Melin wedi parhau i ddangos ymrwymiad cryf i wella cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws y sefydliad, gan adeiladu ar ei lwyddiant, ar ôl ennill y QED yn 2017.

“Yn wir, mae'r cynnydd a welwyd gan Melin wedi arwain at sawl canlyniad ac effaith nodedig. Ymhlith y rhain mae enghreifftiau o arfer da sy'n tynnu sylw at ethos cadarnhaol Melin, ac sydd hefyd yn gosod meincnod ar gyfer sefydliadau eraill. Bydd y rhain yn gatalydd ar gyfer cynnydd pellach dros y tair blynedd nesaf a thu hwnt, ac rydym yn edrych ymlaen at eu cefnogi wrth fwrw ymlaen.”

Alicja, Paula a grŵp o staff Melin ac aelodau’r bwrdd yn dathlu
Alicja, Paula a grŵp o staff Melin ac aelodau’r bwrdd yn dathlu

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld