Rhif 6 yn 2021!
2021 yw’r flwyddyn gyntaf i ni fod ar dair rhestr, gyda Rhoi Rhywbeth yn Ôl yn dal i fod yn gategori uchaf i ni.
Ysgrifennwyd gan Fiona
—27 Mai, 2021
Rhif 6 yn 2021!
2021 yw’r flwyddyn gyntaf i ni fod ar dair rhestr, gyda Rhoi Rhywbeth yn Ôl yn dal i fod yn gategori uchaf i ni.
Mae Cwmnïau Gorau yn wobr ardderchog ac yn gydnabyddiaeth am waith caled ein staff ymroddedig a gofalgar. Mae ein pobl yn gwybod ein bod ni’n ceisio gwneud ein gorau i’n trigolion a’r cymunedau yr ydym yn gweithio ynddyn nhw. Mae’r 14 mis diwethaf wedi bod yn ddigyffelyb ac roedden ni’n teimlo bod parhau gyda’n siwrnai Cwmnïau Gorau yn bwysicach nag erioed.
Dyma’r hyn oedd gan ein staff i’w ddweud pan ofynnon ni beth sy’n gwneud i Melin fod yn lle gwych i weithio?
"Er ein bod ni, trwy ran fwyaf y flwyddyn yma, wedi bob o dan gyfyngiadau clo ac yn gweithio gartref, mae Melin wedi gwneud pob ymdrech i wneud i ni deimlo’n bod ni o werth ac i’n cynnwys ni, gyda nifer o bethau annisgwyl yn dod trwy’r post!”
"Mae cyflogeion yn cael eu gwerthfawrogi trwy’r amser am ei gwaith. Mae yna deimlad o fod mewn tîm ac o berthyn i’r sefydliad."
"Y bobl. Mae’n lle gwych i weithio! Rwy’ wedi bod yma ers 2001 fel does dim angen dweud mwy.”
"Rwy’n teimlo cefnogaeth yn fy rôl a fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi. Mae hi wedi bod yn flwyddyn anodd i bawb. Rwy’n teimlo’n ffodus iawn o fod yn gallu gweithio gartref ar adeg mor anodd. Mae fy rheolwr llinell a rheolwr tîm wedi bod yn gefnogol ar hyd yr amser. Nid yn unig yr ydym ni’n edrych ar ôl ein trigolion, rydyn ni’n edrych ar ôl ein gilydd hefyd.”
"Mae Melin yn lle anhygoel i weithio. Rwy’n cael anogaeth i wneud fy ngwaith pob dydd. Rydym yn cael ein gwarchod fel unigolion, gydag amrywiaeth eang o bethau sy’n cefnogi fy iechyd meddwl a lles ac sy’n cadw fi i fynd. Mae cynllun Zest wedi bod yn sylfaen gwarchod lles staff ers amser maith gyda nifer o gynlluniau i fy nghadw i’n iach.”
Dywedodd Paula Kennedy, Prif Weithredwr Melin: “Mae bod yn rhif chwech ar restr 25 Cymdeithas Dai Orau i Weithio Iddynt yn rhywbeth i fod yn falch iawn ohono. Mae’r gwobrau yma’n bwysig i ni ym Melin gan eu bod yn seiliedig ar sut mae staff yn teimlo am y lle maen nhw’n gweithio ynddo. Hoffwn i ddiolch i bawb ym Melin am ein gwneud ni’n lle mor wych i weithio ynddo, mae eu hymrwymiad dros y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn ysbrydoledig mewn amgylchiadau mor anodd.”