Polisi Cwcis This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.
Tudalen Breifatrwydd

Yn ôl i newyddion

Hwyl i’r teulu yn yr haul a’r glaw!

Am ddiwrnod anhygoel wrth i ni fynd â’n cynllun iechyd a lles, Zest, i’r gymuned am ein seithfed digwyddiad blynyddol ‘Zest yn y Parc’. Er gwaethaf y cawodydd a’r gwynt achlysurol, daeth yr haul i’r golwg o’r diwedd, ac felly hefyd cannoedd o deuluoedd, o weld y gwenau a’r chwerthin gallwn fod yn 100% siŵr bod pawb wedi cael hwyl.

Ysgrifennwyd gan Fiona

08 Awst, 2024

Grwp o bobl mewn parc

Roedd modd i ymwelwyr gael eu tylino, cael ffrwyth am ddim, danteithion am ddim, balŵns a mwy. Cafwyd adloniant gan fferm anifeiliaid bach, castell gwynt, sgiliau syrcas, paentio wynebau, hwyl rygbi a phêl droed, cystadlaethau a chyfleoedd am ffotograffau gyda Spytty the dog, Mickey a Minnie Mouse, a Bluey a Bingo.

Mae’n gallu bod yn anodd cadw’r plant yn brysur yn ystod chwe wythnos y gwyliau, ac yn ddrud iawn. Mae’n hyfryd gweld fod Cartrefi Melin yn cefnogi’r gymuned gyda diwrnod o hwyl am ddim i’r teulu. Cafodd fy rhai i hwyl, a rhoi tro am y ffrwyth am ddim. Rydym ni’n edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf.

Sandra, a ddaeth i ddigwyddiad Zest gyda’i theulu.

Ni fyddai digwyddiadau fel hyn yn bosibl heb gefnogaeth ein partneriaid; County in the Community a Rygbi’r Dreigiau. Diolch arbennig i; Dr Bob, Party Magic events, The Mobile Farm, Petrena, A1 Jump and Bounce, Dr Bike, Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen, a’n peintwyr wynebau gyda Masquerade, a gefnogodd y diwrnod.

Pobl chwarae gemau syrcas
Teuluoedd mwynhau'r gemau

Yn son am y digwyddiad, meddai Fiona, aelod o staff Melin:

Roeddem ni’n siomedig o orfod canslo’r digwyddiad llynedd oherwydd y glaw trwm...ond roeddem ni wrth ein bodd o fod yn ôl eleni ac mae’n tyfu ac yn gwella pob blwyddyn. Ym Melin, ein hethos yw cefnogi cymunedau a chreu cyfleoedd i bobl ffynnu, mae hyn wrth hyn wrth galon pob peth yr ydym yn ei wneud. Dyna pam fod cynnal digwyddiadau fel hyn yn ein cymunedau mor bwysig i ni."

Diolch yn fawr i’n partneriaid a wnaeth y digwyddiad yn bosibl ac yn llwyddiant enfawr, a diolch hefyd i’n staff - maen nhw’n gwybod sut i gynnal digwyddiad, nhw yw’r gorau!

Fiona Williams — Prif Swyddog Diwylliant a Chyfathrebu Cartrefi Melin
Rhowch ddigwyddiad Zest yn y Parc y flwyddyn nesaf yn eich dyddiadur – 6ed Awst 2025

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld