#GydaChi
Mae ein cynghorwyr arian ac ynni wedi bod yn helpu trigolion fwy nag erioed yn ystod yr argyfwng cenedlaethol hwn. Dyna pam rydym yn falch o gefnogi ymgyrch Tai Cymunedol Cymru #GydaChi i hybu’r gwaith gwych y mae cymdeithasau tai ledled Cymru yn ei wneud i helpu trigolion i aros yn ddiogel yn eu cartrefi. Mae Gavin, Fiona (ddim yn y llun), Leslie, Dave a Bethan (yn y llun) wedi bod yn brysur yn darparu cymorth, cyfarwyddyd a help i unrhyw drigolion sydd ei angen. Rydym wedi bod yn galw trigolion i weld sut maent ac i weld os ydynt angen unrhyw gymorth.
Ysgrifennwyd gan Fiona
—08 Ebr, 2020
Mae ein cynghorwyr arian ac ynni wedi bod yn helpu trigolion fwy nag erioed yn ystod yr argyfwng cenedlaethol hwn. Dyna pam rydym yn falch o gefnogi ymgyrch Tai Cymunedol Cymru #GydaChi i hybu’r gwaith gwych y mae cymdeithasau tai ledled Cymru yn ei wneud i helpu trigolion i aros yn ddiogel yn eu cartrefi.
Mae Gavin, Fiona (ddim yn y llun), Leslie, Dave a Bethan (yn y llun) wedi bod yn brysur yn darparu cymorth, cyfarwyddyd a help i unrhyw drigolion sydd ei angen. Rydym wedi bod yn galw trigolion i weld sut maent ac i weld os ydynt angen unrhyw gymorth.
Mewn 3 wythnos yn unig, mae’r tîm wedi helpu trigolion i gael £374,279.67 mewn cyllid drwy gyfrwng cyngor ar arian ac ynni, gweld pwy sydd â hawl i fudd-daliadau, newid cyflenwyr a gwneud cais am ddisgownt, ac maent wedi derbyn 122 o atgyfeiriadau am gyngor ynni ac arian.
Tra bod yr ystadegau yn edrych yn dda, rydym eisiau canolbwyntio ar y bobl y tu ôl i’r ffigurau hyn.
Cysylltodd Sandra* â ni. Roedd fel rheol yn dibynnu ar deulu am help, ond roedd yn hunanynysu ac mewn penbleth. Helpodd ein tîm hi i wneud cais am Ostyngiad yn y Dreth Gyngor, Taliad Tai Dewisol (oherwydd tan-ddeiliadaeth) ac fe gynigiwyd cyngor ar ynni iddi. Roedd Sandra mor ddiolchgar ac ni allai gredu bod cymdeithas dai yn cynnig cymaint o help.
Roedd Billy*, person sengl gyda thri o blant hŷn, yn hunanynysu oherwydd ei fod mewn categori risg uchel ac roedd yn dioddef o bryder ynglŷn â sut fyddai’n rheoli ei arian. Gwnaeth y tîm asesiad Credyd Cynhwysol, a fyddai’n golygu y byddai’r preswylydd mewn sefyllfa ariannol well, hyd yn oed pan fyddai popeth yn dychwelyd i normal. Cwblhawyd cais Gostyngiad yn y Dreth Gyngor ac fe wnaed atgyfeiriad ynni.
Symudodd Carla* i’w chartref newydd, gyda mesuryddion credyd. Trefnwyd i gael gwared ohonynt a gosod mesuryddion clyfar. Trefnwyd hefyd ei bod yn cael oergell-rhewgell newydd (drwy Gronfa Cymorth Dewisol y llywodraeth) a’i chyfeirio i’n Tîm Cyflogaeth.
Roedd Tony* wedi byw gyda mwy na £550 o ddebyd trydan am nifer o flynyddoedd ac ni allai gael gwared ohono. Hefyd, nid oedd yn talu digon am yr hyn roedd yn ei ddefnyddio. Cafodd ein tîm hyd i dariff fforddiadwy, mwy addas iddo a gwneud cais i Gronfa Cymorth Cwsmeriaid SSE/Swalec ac mae’r ddyled wedi ei chlirio.
Mae trigolion wedi cysylltu â ni i ddweud pa mor werthfawrogol y maent am yr help, cymorth a’r gefnogaeth rydym yn ei gynnig. Rydym yn deall nawr fwy nag erioed pa mor bwysig ydyw ein bod wedi buddsoddi mewn tîm penodol i ddarparu’r cymorth hwn.
Os ydych chi mewn anhawster, cysylltwch â ni heddiw moneyadvice@melinhomes.co.uk neu ffoniwch 01495 745910.
Nodyn: *mae enwau wedi eu newid i warchod hunaniaeth y trigolion.