Wythnos brentisiaeth 2021
Cynhelir Wythnos Brentisiaeth Genedlaethol 2021 rhwng yr 8fed a’r 14eg o Chwefror 2021. Bydd y dathliad wythnosol blynyddol sy'n dathlu prentisiaethau yn taflu goleuni ar y gwaith anhygoel sy'n cael ei wneud gan gyflogwyr a phrentisiaid ledled y wlad.
Ysgrifennwyd gan Fiona
—08 Chwef, 2021
Cynhelir Wythnos Brentisiaeth Genedlaethol 2021 rhwng yr 8fed a’r 14eg o Chwefror 2021.
Bydd y dathliad wythnosol blynyddol sy'n dathlu prentisiaethau yn taflu goleuni ar y gwaith anhygoel sy'n cael ei wneud gan gyflogwyr a phrentisiaid ledled y wlad.
Rydym yn ymfalchïo’n fawr mewn prentisiaid a'r rhaglen brentisiaethau sydd wedi ymrwymo i ddatblygu pobl ifanc, ac ar hyn o bryd mae gennym 13 prentis a phrentisiaid rolau uwch ar draws y busnes. Rydym am barhau i ddarparu'r cyfleoedd hyn, er mwyn rhoi lleoliadau diogel o ansawdd uchel i bobl gyda chwmni sy'n gofalu. Rydym yn datblygu diwylliant 'datblygu eich hun', gan sicrhau ein bod yn darparu cyfleoedd i bobl nid yn unig ymuno â'r busnes ond datblygu a symud ymlaen.
Mae prentisiaeth yn swydd gyda hyfforddiant, sy'n agored i unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hŷn, heb unrhyw derfyn oedran uchaf, yn gweithio ochr yn ochr â'n staff profiadol i ennill cymwysterau sy'n benodol ar gyfer y swydd.
Mae prentisiaethau yn golygu eich bod yn cael eich cyflogi ac y byddwch yn ennill wrth ddysgu, fel y gallwch ennill cymhwyster penodol i'r diwydiant heb fod angen benthyciad myfyriwr. Rydych chi'n cael eich cyflogi'n llawn amser gyda ni (35 awr yr wythnos), sy'n cynnwys yr amser a dreulir gyda'ch darparwr hyfforddiant.
Byddwn yn parhau i ehangu ein rhaglen brentisiaid ac rydym yn gweithio gyda'n Tîm Datblygu a'n his-gwmni Candleston i ddarparu mwy o gyfleoedd i bobl leol.
Byddwn yn rhyddhau cyfleoedd i brentisiaid yn ddiweddarach eleni. Os hoffech gael gwybod pan fydd gennym fwy o fanylion, anfonwch e-bost atom news@melinhomes.co.uk ac fe wnawn ni gysylltu â chi pan fydd gennym fwy o wybodaeth.
Rhannodd Katie ei stori:
“Fy enw yw Katie ac rwyf yn brentis yn y
maes trydanol. Ymunais â Melin yn 2019. Pan ddaeth yn amser i mi adael
yr ysgol tuag at ddiwedd fy arholiadau Lefel A, nid oeddwn yn gwybod
beth oeddwn am ei wneud. Roedd angen i mi ddod o hyd i rywbeth y buaswn
yn ei fwynhau.
"Deuthum yn brentis oherwydd roeddwn i eisiau gweithio mewn maes arbennig, . Deuthum i Melin gyntaf i gael rhywfaint o brofiad gwaith i weld a fyddwn i eisiau cael gyrfa yn drydanwr. Ar ôl i mi dreulio peth amser gyda'r Tîm Trydanol roeddwn yn gwybod mai dyna oedd yr yrfa i mi.
"Fe wnes i gofrestru gyda darparwr dysgu yn y gwaith; mae'n rhaid i chi lwyddo yn yr arholiadau sy'n profi eich sgiliau Mathemateg a Saesneg, ac fe wnes i hynny. Ychydig fisoedd yn unig y bu'n rhaid i mi aros a daeth prentisiaeth i'r amlwg ac roeddwn i'n llwyddiannus yn y cyfweliad.
"Rwyf yn mwynhau fy ngwaith yn fawr iawn am fy mod yn cael gweithio gyda chymaint o wahanol bobl a’u helpu. Rwyf hefyd yn hoffi helpu’r trigolion drwy drwsio pethau. Dyma’r gwahanol bethau sy’n rhan o fy rôl:
- Trwsio goleuadau neu eu newid am rhai newydd.
- Trwsio socedi neu switshis.
- Gwneud profion i wneud yn siŵr bod yr uned defnyddio yn y tŷ neu’r fflat yn ddiogel ac yn gywir.
- Rydw i hefyd yn helpu i wifro boeleri a gwahanol systemau gwresogi.
- Newid cawodydd sydd wedi torri.
- Glanhau a newid gwyntyllau yn y gegin neu’r ystafell ymolchi.
- Trwsio neu newid goleuadau tu allan.”
Gallwch ddilyn siwrnai Katie ar ei thaith fel prentis ar ei thudalen Instagram – @katiethetinyspark
Rhannodd Daniel ei stori:
“Daniel yw fy enw i ac rydw i'n brentis plymio a gwresogi yn ail flwyddyn fy mhrentisiaeth. Ymunais â Melin yn 2020.
"Y peth gorau am brentisiaeth yw eich bod chi bob amser yn dysgu rhywbeth newydd bob dydd ac nad oes dau ddiwrnod yr un peth. Mae'r bobl rydw i'n gweithio gyda nhw mor barod i helpu a bob amser yn cymryd yr amser i drafod pethau gyda chi os nad ydych chi'n deall rhywbeth. Rydw i hefyd yn mynd i'r coleg un diwrnod yr wythnos, sy'n dda iawn. Rwy'n ei chael hi'n ddiddorol iawn ac mae'r pethau rydw i'n eu dysgu yn y coleg yn help mawr gyda'r gwaith ymarferol rydw i'n ei wneud yn fy swydd, ac mae hynny mor bwysig.
"Buaswn yn dweud wrth unrhyw un sy'n ystyried prentisiaeth am fynd amdani, ni fyddwch chi'n difaru. Dyma'r peth gorau erioed i mi."
Hoffem ddiolch i'n prentisiaid am rannu eu straeon. Wythnos Prentisiaeth Genedlaethol Hapus.