Y 10 awgrym gorau i sicrhau bod eich cartref yn barod ar gyfer y gaeaf
Edrychwch ar ein canllaw defnyddiol er mwyn i chi gael eich cartref yn barod ar gyfer y gaeaf. Rydym wedi cynnwys ychydig o adnoddau a ffyrdd y gallwch gysylltu â ni os oes angen unrhyw help arnoch.
Ysgrifennwyd gan Fiona
—23 Medi, 2020
Edrychwch ar ein canllaw defnyddiol er mwyn i chi gael eich cartref yn barod ar gyfer y gaeaf. Rydym wedi cynnwys ychydig o adnoddau a ffyrdd y gallwch gysylltu â ni os oes angen unrhyw help arnoch.
- drychwch i weld a yw eich boeler yn gweithio'n iawn - os nad ydych chi wedi cael eich gwres ymlaen trwy'r haf, trowch ef yn ôl ymlaen a gwnewch yn siŵr bod y gwres yn dod ymlaen. Os nad yw’n ymddangos bod eich boeler yn gweithio, cysylltwch â ni a gallwn anfon rhywun allan atoch cyn i’r tywydd newid. Weithiau os nad ydych wedi defnyddio'ch boeler am gyfnod gall y pwysedd ostwng - mae hyn yn rhywbeth y gallwch chi ei ddatrys eich hun, gwyliwch y fideo y mae Worcester Bosch wedi ei gynhyrchu sy’n dangos i chi sut y gallwch ailosod pwysedd eich system wresogi.
- Edrychwch i weld a yw eich rheiddiaduron i gyd yn gweithio - pan fyddwch chi'n troi'r gwres ymlaen, edrychwch i weld a yw eich rheiddiaduron yn poethi o'r top i'r gwaelod ym mhob ystafell. Os oes unrhyw broblemau gyda nhw yn cynhesu, neu os byddwch chi'n sylwi ar ddŵr yn diferu, rhowch alwad i ni i drefnu atgyweiriad. Os nad yw unrhyw rhai o'ch rheiddiaduron yn cynhesu ar y top, bydd angen i chi ollwng peth dŵr o'r rheiddiaduron. Gallwch weld sut i ollwng dŵr o reiddiadur drwy wylio’r fideo hwn gan Worcester Bosch.
- Sicrhewch fod eich cwteri yn glir - gall draeniau a chwteri sydd wedi'u blocio achosi difrod i eiddo pan fydd yn dechrau bwrw glaw yn drwm. Rhowch alwad i ni a gallwn drefnu i anfon rhywun allan i gael golwg.
- Edrychwch dros eich biliau ynni ac ystyriwch newid cyflenwyr ynni. Nid oes unrhyw darfu ar y gwasanaeth; y cyfan sy'n digwydd yw bod eich arian yn mynd i gwmni gwahanol pan fyddwch chi'n talu'ch bil. Mae yna lawer o wefannau a fydd yn chwilio am y fargen orau gan gynnwys Uswitch. Os yw eich biliau ynni yn achosi gofid i chi ac os oes angen cyngor am ddim arnoch am ynni a gwiriad iechyd ynni y cartref, ’cysylltwch ân tîm ynni drwy e-bost neu drwy decstio 07781 472210 neu ffonio 01495 745910, gan ddyfynnu 'ynni'.
- Gall awelon oer y gaeaf ddod o hyd i bob twll a chornel yn eich cartref. Beth am gael un o'r pethau doniol hynny sy'n debyg i neidr neu gi i gadw drafftiau allan? Mae gan yr Ymddiriedolaeth genedlaethol erthygl wych ar eu gwefan i ddangos i chi sut i wneud un eich hun.
- Ceisiwch osgoi dodrefn gardd sy'n hedfan - os yw’r rhagolwg ar gyfer gwyntoedd cryfion gall rhai eitemau bob dydd hedfan ac achosi difrod. Gwnewch yn siŵr bod unrhyw eitemau a allai achosi niwed i'ch cartref yn sefydlog - gwell diogel nac edifar.
- Defnyddiwch lenni trymach. Mae tua 40% o'r gwres sy'n dianc o'ch cartref yn dod o ffenestri heb eu gorchuddio. Gallwch chi atal hyn trwy ddefnyddio llenni trymach, wedi'u leinio yn y gaeaf i insiwleiddio ffenestri yn iawn a chyfyngu'r mannau sy'n gadael i aer poeth ddianc. Bydd hyn hefyd yn rhwystro'r awel rhag dod i mewn. Gall pethau bach fel hyn wneud gwahaniaeth mawr.
- Storiwch bentwr o hanfodion y cartref. Cyn iddi oeri, meddyliwch am yr holl bethau y byddai eu hangen arnoch chi pe byddech yn sownd yn y tŷ oherwydd eira a phrynwch rywfaint yn ychwanegol. Efallai torth neu ddwy yn fwy a pheintiau o laeth ar gyfer y rhewgell, rhai tuniau ychwanegol o fwyd, bagiau te - a pheidiwch ag anghofio papur tŷ bach! Os ydych chi'n gwneud prydau neu gawl cartref, beth am ddyblu'r maint a rhewi dognau ychwanegol ar gyfer argyfyngau?
- Mae'r Gofrestr Blaenoriaethu Gwasanaethau yn wasanaeth rhad ac am ddim a ddarperir gan Western Power ac mae ar gael i unrhyw un sydd o oedran pensiwn, yn anabl, sydd â phlant o dan bum mlwydd oed neu'n dibynnu ar offer meddygol.
Fel rhan o'r gwasanaeth, mae cwsmeriaid yn cael eu hysbysu cymaint â phosibl am doriadau i bŵer sy'n effeithio ar eu cartref ac maent yn cael cymorth arbennig, os oes angen, trwy'r Groes Goch Brydeinig. Mae'r Gofrestr Blaenoriaethu Gwasanaethau yn cynnig tawelwch meddwl i gwsmeriaid bregus a'u teuluoedd.
I ddarganfod mwy neu i gofrestru, ffoniwch Western Power ar 0800 096 3080 neu ewch i www.westernpower.co.uk/psr. - Codwch ddail sydd wedi cwympo i osgoi llwybrau llithrig.
Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd ac angen cymorth neu gefnogaeth ychwanegol rydym wedi paratoi canllaw defnyddiol yn llawn cyngor - gallwch ddod o hyd iddo yma. Mae gennym hefyd dîm cyngor a all eich helpu gyda phryderon arian a budd-daliadau, cymorth cyflogaeth, newid cyflenwyr ynni a dyledion rhent. Peidiwch â dioddef mewn distawrwydd rydym yma i chi.
Dewch o hyd i’r holl ffyrdd y gallwch gysylltu â ni ar ein tudalen Cysylltu.