Y Cap ar Fudd-daliadau
Mae yna derfyn ar gyfanswm y budd-dal y gall y rhan fwyaf o bobl rhwng 16 a 64 gael. Gelwir hyn yn y cap budd-dal. Bydd y cap £26,000 yn cael ei ostwng i £20,000 yng Nghymru. Ar hyn o bryd bydd yn effeithio ar grŵp bach ond arwyddocaol o bobl gan gynnwys y rheini a all hefyd fod yn ofalwyr.
Ysgrifennwyd gan Marcus
—31 Mai, 2016
Y Cap ar Fudd-daliadau
Mae yna derfyn ar gyfanswm y budd-dal y gall y rhan fwyaf o bobl rhwng 16 a 64 gael. Gelwir hyn yn y cap budd-dal. Bydd y cap £26,000 yn cael ei ostwng i £20,000 yng Nghymru. Ar hyn o bryd bydd yn effeithio ar grŵp bach ond arwyddocaol o bobl gan gynnwys y rheini a all hefyd fod yn ofalwyr.
Budd-daliadau sy'n cael eu heffeithio
Mae'r cap yn berthnasol i gyfanswm y swm y mae'r bobl yn eich cartref yn ei gael o’r budd-daliadau canlynol:
Lwfans Profedigaeth
Lwfans Gofalwr
Budd-dal plant
Credyd Treth Plant
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (oni bai eich bod yn cael y gydran cymorth)
Lwfans Gwarcheidwad
Budd-dal tai
Budd-dal Analluogrwydd
Cymhorthdal incwm
Lwfans Ceisio Gwaith
Lwfans mamolaeth
Lwfans Anabledd Difrifol
Credyd Cynhwysol
Lwfans Rhiant Gweddw (neu Bensiwn Lwfans Mam Weddw neu Bensiwn Gweddwon wnaethoch ddechrau cael cyn 9 Ebrill 2001)
Faint yw'r cap budd-dal?
Lefel y cap yw:
£500 yr wythnos i gyplau (gyda neu heb blant yn byw gyda nhw)
£500 yr wythnos ar gyfer rhieni sengl y mae eu plant yn byw gyda nhw
£350 yr wythnos ar gyfer oedolion sengl nad oes ganddynt blant, neu nad yw eu plant yn byw gyda nhw.
Gall hyn olygu bod y swm a gewch ar gyfer budd-daliadau penodol yn mynd i lawr i wneud yn siŵr nad yw cyfanswm y swm a gewch yn fwy na lefel cap.
Pwy na fydd hyn yn effeithio?
Efallai y byddwch dal yn cael eich effeithio gan y cap os oes gennych unrhyw blant wedi tyfu i fyny neu nad ydynt yn ddibynyddion sy'n byw gyda chi ac maent yn gymwys i gael un o'r budd-daliadau isod. Mae hyn oherwydd na fyddant fel arfer yn cyfrif fel rhan o'ch cartref. Nid ydych yn cael eich effeithio gan y cap budd-dal os oes unrhyw un yn eich cartref yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith neu yn cael unrhyw un o'r budd-daliadau canlynol:
Lwfans Byw i'r Anabl
Taliad Annibyniaeth Bersonol
Lwfans Gweini
Budd-daliadau Anafiadau Diwydiannol (a thaliadau cyfatebol fel rhan o bensiwn anabledd rhyfel neu Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog)
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (os ydych yn cael y gydran cymorth)
Pensiynau rhyfel Gwraig Weddw Rhyfel neu Ŵr Gweddw Rhyfel
Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog
Cysylltwch â ni!
Mae ein Tîm Cyngor Ariannol wrth law i helpu – cysylltwch â ni, dydyn ni ddim yn brathu. Ffôn: 01495 645910 neu e-bostiwch enquiries@melinhomes.co.uk