Mae Eich Llais yn Bwysig
Rydym yn gwybod mai ein cwsmeriaid yw’r bobl orau i’n helpu ni i lunio a gwella ein gwasanaethau. Rydych chi yn gwybod pan fo pethau’n iawn, a lle gallwn wneud gwelliannau. Mae pob un o’n cwsmeriaid yn dod yn Llais pan fyddant yn dod yn gwsmer Melin. Rydym yn sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn arolygon.
Ysgrifennwyd gan Fiona
—11 Maw, 2022
Rydym yn gwybod mai ein cwsmeriaid yw’r bobl orau i’n helpu ni i lunio a gwella ein gwasanaethau.
Rydych chi yn gwybod pan fo pethau’n iawn, a lle gallwn wneud gwelliannau. Mae pob un o’n cwsmeriaid yn dod yn Llais pan fyddant yn dod yn gwsmer Melin. Rydym yn sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn arolygon.
Rydym yn gwybod mai ein cwsmeriaid yw’r bobl orau i’n helpu ni i lunio a gwella ein gwasanaethau.
Rydych chi yn gwybod pan fo pethau’n iawn, a lle gallwn wneud gwelliannau.
Os hoffech chwarae mwy o ran, gallwch ymuno ag un o’n grwpiau ffocws Lleisiau – cysylltwch â ni
- Y Grŵp Cymunedol – cyfarfod bob mis gyda’r Tîm Cymunedau i gynllunio ac ariannu digwyddiadau cymdogaeth a dyfarnu cyllid grant.
- Y Grŵp gwasanaethau Cwsmeriaid – maent yn craffu ar y gwasanaethau a ddarperir gan Melin, a gwneud argymhellion i wella’r gwasanaeth, gan ofyn am farn trigolion a staff. Maent yn cyfarfod pan fo angen i gwblhau adroddiadau.
Mae ein Lleisiau wedi cefnogi ein cymunedau gyda chyllid, gan wneud gwahaniaeth i’n trigolion, Dyma sut gwariwyd peth o’r arian yn 2022:
- Tocynnau rhodd bwyd ac ynni i'n trigolion - £19,000.
- Tocynnau rhodd Tesco i'n trigolion – £1,950.
- Cyllid grant i'r ardd yn Ysgol Blaenavon – £253.
- £98 i brynu blychau melysion ar gyfer Siôn Corn Melin.
- £300 i noddi Gwobrau Gwirfoddoli Torfaen.
- £500 i gefnogi Cor 'Only Melin Aloud'
Y stori hyd yma ar arolygon mawr trigolion yn 2022
Mae ein trigolion wedi darparu cymaint o adborth i ni drwy arolygon. Dyma rai o’r arolygon maent wedi ymateb iddynt. Mae ein Grŵp Gwasanaeth Cwsmeriaid Lleisiau wedi helpu i arolygu’r ymatebion ac wedi gwneud awgrymiadau sut allwn wella.
Cyfathrebu ar daliadau gwasanaeth
Anfonwyd yr arolwg i holi trigolion beth roeddynt yn ei feddwl am sut rydym yn cyfathrebu â nhw ar daliadau gwasanaeth. Dyma sut y bu i ni wrando, gweithredu a dysgu:
- Nid oedd trigolion yn ymwybodol o ba ardaloedd oedd yn dod dan y trefniadau cynnal a chadw tiroedd.
- Byddwn nawr yn darparu diagramau manwl o’r ardaloedd preswyl a pha mor aml y byddant yn cael eu trin.
- Mae’r atodlen taliadau gwasanaeth yn anodd ei deall.
- Mae gwybodaeth gliriach nawr yn cael ei hanfon gyda llythyrau rhent.
- Nid yw cynnydd mawr mewn rhent yn cael ei esbonio.
- Mae gwybodaeth gliriach nawr yn cael ei hanfon.
Gwastraff ac ailgylchu
Anfonwyd yr arolwg i holi trigolion beth roeddynt yn ei feddwl am wastraff ac ailgylchu. Dyma sut y bu i ni wrando, gweithredu a dysgu:
- Roedd trigolion (yn enwedig rhai mewn cynlluniau lloches) yn cael trafferthion gydag arwyddion gwael ac anhawster wrth agor rhai o’r biniau mwy.
- Byddwn yn gwella’r arwyddion ac yn cysylltu gydag Awdurdodau Lleol i wella neu addasu biniau mwy.
- Roedd gwastraff yn cael ei adael yn y storïau bin cyffredin.
- Rydym wedi ychwanegu teledu cylch cyfyng mewn rhai o’r mannau gwaethaf i geisio lliniaru hyn ac rydym yn ystyried storïau bin diogelach.
- Mae llawer o’r cynwysyddion ailgylchu angen eu huwchraddio i wneud ailgylchu yn haws.
- Rydym yn gweithio gyda phartneriaid awdurdod lleol i geisio ateb i hyn.
Arolygon Rheoli Asedau
Rydym wedi anfon arolygon allan ar y meysydd canlynol yn ddiweddar
Glanhau
Mae trigolion wedi dweud nad ydynt yn gwybod pryd mae’r glanhawyr yn cyrraedd a’r hyn y dylent fod yn ei wneud ar y safle. Rydym nawr wedi arddangos yr wybodaeth mewn cynlluniau yn esbonio beth sydd wedi ei gytuno gyda’n contractwyr ac amlder eu hymweliadau.
Cynnal a chadw tiroedd
Nid oedd y trigolion yn glir o ran yr hyn a ddisgwylir gan y contractwr. Rydym yn gweithio gyda’n contractwr i gynhyrchu rota, fel bod trigolion yn gwybod pryd y byddant yno.
Glanhau ffenestri
Nid oedd yn trigolion yn glir o ran amlder ymweliadau’r contractwr. Rydym nawr wedi gosod posteri fel bod trigolion yn deall bod glanhau ffenestri yn digwydd unwaith y chwarter.
Arolwg Rhentu Cartrefi
Rydym wedi anfon 4,178 o arolygon yn gofyn i drigolion os buasent yn hapus derbyn Contract Deiliadaeth newydd drwy ebost, a dywedodd 1,036 y buasent.
Sut allwch chi helpu
Byddai’n ein helpu ni pe gallech sicrhau bod eich manylion cyswllt diweddaraf chi gennym – eich cyfeiriad ebost, rhif ffôn a’r dull hoffech i ni gysylltu gyda chi, ac enw a manylion cyswllt unrhyw un arall sy’n byw gyda chi. Gallwch ddiweddaru’r manylion yma drwy eich cyfrif neu drwy ebostio enquiries@melinhomes.co.uk – cynhwyswch eich enw a’ch cyfeiriad fel ein bod yn gwybod pwy ydych chi.
Ar wahân i hyn, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth arall ar hyn o bryd.
Arolwg ‘Sut perfformiodd Melin yn y pandemig’
Rydym wedi gofyn am farn trigolion ar sut y bu i ni berfformio, a chawsom 742 o ymatebion:
A oedd yn hawdd cysylltu gyda Melin yn ystod y pandemig? Oedd – 71% Niwtral – 15.8% Na – 13.2%
A yw’r gwasanaeth rydych wedi ei dderbyn (gan gymryd y cyfyngiadau i ystyriaeth) wedi bod yn dda? Do – 69.6% Niwtral – 16.4% Na – 14%
A ydych yn colli gallu dod i swyddfeydd Melin? Ydw – 10.1% Na – 89.9%
Cawsom 183 o sylwadau hefyd, a aseswyd gan staff ac fe gysylltwyd gyda thrigolion a oedd angen ymateb. Hoffem ddiolch i’n holl drigolion sydd wedi cymryd yr amser i roi adborth i ni am ein gwasanaethau. Rydym wedi gwrando ar yr hyn roedd gennych i’w ddweud, wedi gweithredu ar hynny lle gallwn, ac wedi dysgu o’r wybodaeth a roesoch i ni.