Gwelliannau i’r cartref
Bydd unrhyw waith sy’n golygu newidiadau ffisegol i strwythur, gosodiadau neu ffitiadau’r eiddo angen ein caniatâd ni. Bydd rhai pethau nad ydynt angen caniatâd gennym ni.
Mae asbestos yn ffibr naturiol a oedd yn cael ei ddefnyddio’n eang yn y diwydiant adeiladu a diwydiannau eraill tan ddiwedd y 1990au.
Mae’n ofyniad cyfreithiol i ni eich hysbysu bod nifer fechan o’n cartref yn cynnwys asbestos. Ni ddylai hyn achosi pryder, gan ei bod yn berffaith ddiogel byw mewn cartref gydag asbestos os nad oes unrhyw beth yn ymyrryd arno.
Pan fyddwn yn gwneud newidiadau neu waith trwsio yn eich cartref, rydym yn gallu gweld y cofnodion asbestos. Byddwn yn cymryd y rhagofalon angenrheidiol i sicrhau eich bod chi a’n staff yn cael eu diogelu.
Mae eich Contract Meddiannaeth yn ei gwneud yn glir bod methu â dweud wrthym am unrhyw waith rydych yn ei wneud i’ch cartref yn golygu mai chi sy’n gyfrifol am gost y gwaith. Gellir hefyd gofyn i chi dalu i ddadwneud y gwaith os ydych wedi ei wneud heb i ni gael gwybod a heb ein caniatâd.
Os ydych yn bwriadu gwneud unrhyw newidiadau, cysylltwch â ni cyn i chi ddechrau ar unrhyw waith.
Rydym yn gofyn i chi wneud hyn oherwydd gallech ymyrryd yn ddamweiniol ag asbestos, a fyddai fel arall yn ddiogel.
Os ydych yn bwriadu addurno eich cartref, mae’n beth da cysylltu â ni a gofyn am gyngor, gan y byddwn yn gallu dweud wrthych os bydd eich cynlluniau yn ymyrryd ag unrhyw asbestos yn eich cartref, er mor annhebygol yw hyn.
Cysylltwch â’n Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01495 745910.
Peidiwch â cheisio trwsio neu sgubo unrhyw wastraff eich hun. Gall defnyddio sugnwr llwch neu frws sgubo godi ffibrau asbestos i’r aer.
Nid yw deunyddiau sy’n cynnwys asbestos nad ydynt wedi eu niweidio ac mewn cyflwr da yn beryglus, ac yn gwbl ddiogel.
Bydd unrhyw waith sy’n golygu newidiadau ffisegol i strwythur, gosodiadau neu ffitiadau’r eiddo angen ein caniatâd ni. Bydd rhai pethau nad ydynt angen caniatâd gennym ni.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, dyma sut y gallwch gysylltu ag un o’n aelodau staff.