Cysylltiadau defnyddiol eraill
I gael help penodol ar drosedd ac elusennau sy’n cynnig cymorth, yng Nghymru, a chymorth yn eich awdurdod lleol.
Mae amddiffyn yn ymwneud â diogelu hawliau oedolyn, person ifanc neu blentyn i fyw yn ddiogel, yn rhydd rhag camdriniaeth ac esgeulustra. Mae hefyd yn ymwneud â gwneud cymaint â phosib i rwystro camdriniaeth rhag digwydd drwy gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth.
Mae amddiffyn yn fater i bawb.
Mae gennym oll rôl i’w chwarae o ran sylwi os oes rywbeth o’i le. Mae’n bwysig iawn ein bod oll yn ymwybodol o’r arwyddion i chwilio amdanynt, a all awgrymu bod rhywun mewn perygl o niwed neu gamdriniaeth:
Os ydych yn cael eich cam-drin neu os ydych yn meddwl bod rhywun arall yn cael ei gam-drin, dylech ddweud wrth rywun. Peidiwch â thybio y bydd rhywun arall yn dweud, a pheidiwch â phoeni os ydych yn meddwl eich bod wedi gwneud camgymeriad – mae’n dal yn bwysig bod rhywun gyda phrofiad a chyfrifoldeb yn edrych ar y mater. Mae gan y Gwasanaethau Cymdeithasol ddyletswydd gyfreithiol i wneud hyn.
Os ydych chi neu rywun rydych yn eu hadnabod yn cael eu cam-drin ac mewn perygl ar unwaith, mae angen i chi wneud rhywbeth yn syth i’w rhwystro nhw neu eraill rhag cael eu niweidio. Dylech ffonio 999 a dweud wrth y gweithredydd beth sy’n digwydd.
Os ydych yn poeni am rywun, dylech roi gwybod i’ch cyngor lleol.
Sefydlwyd y Bwrdd Amddiffyn Annibynnol Cenedlaethol dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Gallwch ddysgu mwy am y Bwrdd a’r hyn y mae’n ei wneud drwy fynd i’w wefan.
Mae gwefan Ymddiriedolaeth Ann Craft yn llawn gwybodaeth ac adnoddau.
I gael help penodol ar drosedd ac elusennau sy’n cynnig cymorth, yng Nghymru, a chymorth yn eich awdurdod lleol.
Os ydych yn tybio eich bod yn dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol, gallwch ddysgu sut mae ein staff wedi eu hyfforddi i helpu.