Eich cyfrifoldebau chi
Rhai awgrymiadau ar gadw’r tu mewn i’ch cartref mewn cyflwr da. Gwnewch yn siŵr nad ydych chi, eich teulu neu ymwelwyr yn achosi difrod i’ch cartref, naill ai’n ddamweiniol neu’n fwriadol.
Mae gennym dimau ymroddedig ar draws Melin sy’n delio gyda phob maes sy’n cael ei lywodraethu gan reoliadau a deddfwriaeth.
Rydym yn cyflogi staff a chontractwyr i ymgymryd â phrofion a gwaith gwasanaethu mewn ardaloedd cyffredin. Mae hyn er mwyn eich cadw’n ddiogel.
Mae gennym gyfrifoldeb cyfreithiol i ymwneud ag archwiliad diogelwch nwy bob 12 mis.
Mae hyn yn helpu i’ch cadw chi, eich teulu a’ch cymdogion yn ddiogel ac yn sicrhau bod eich cyfarpar yn gweithio’n effeithlon.
Byddwn yn cysylltu pan fydd yn amser i wneud eich archwiliad chi, ac yna gallwch drefnu apwyntiad i ni ddod i wirio pethau am ddim. Mae’n bwysig iawn cadw eich apwyntiad gyda ni gan ei fod yn helpu i’ch cadw chi a’ch teulu yn ddiogel.
Os oes angen i chi ad-drefnu apwyntiad am unrhyw reswm, rhowch gymaint o rybudd ag y bo modd i ni, gan fod eich tystysgrif diogelwch nwy ond yn ddilys am 12 mis o ddyddiad yr archwiliad diwethaf.
Pan fyddwn wedi cwblhau eich archwiliad diogelwch nwy, byddwn naill ai’n ebostio neu’n postio eich tystysgrif i chi.
Peidiwch ag ymyrryd gyda’r pibellau nwy yn eich cartref, a gadewch i ni wybod am unrhyw broblemau.
Mae gennym ymrwymiad cyfreithiol i sicrhau bod cyfarpar trydanol yn eich eiddo yn ddiogel.
Argymhellir mai’r arfer orau yw bod Adroddiad Cyflwr Cyfarpar Trydanol (EICR) yn cael ei wneud bob pum mlynedd, er mwyn helpu i’ch cadw chi, eich teulu a’ch cymdogion yn ddiogel.
Gall y prawf gymryd rhwng dwy a phedair awr i’w gwblhau. Byddwn yn gwneud yn siŵr nad oes unrhyw geblau neu switsys neu socedi wedi dirywio.
Byddwn yn adnewyddu unrhyw ategolion sydd wedi torri a thrwsio unrhyw ddiffygion a ganfyddir – mae hyn er mwyn gwneud yn siŵr bod eich cartref yn ddiogel i chi barhau i fyw ynddo.
Byddwn hefyd yn gwneud yn siŵr bod offer canfod mwg yn bresennol ac yn gweithio.
Byddwch yn derbyn llythyr gennym pan fydd yn amser i wneud y prawf trydanol. Cysylltwch â ni pan gewch y llythyr hwn i drefnu apwyntiad. Os oes angen i chi newid apwyntiad am unrhyw reswm, rhoddwch gymaint o rybudd i ni ag y bo modd os gwelwch yn dda.
Rydym yn profi holl offer trydanol mewn mannau cyffredin – gall hyn gynnwys grisiau bach gydag ychydig o oleuadau a’r ardaloedd cyffredin mwy mewn llety gwarchod. Mae hyn yn gwneud yn siŵr bod pob un o’n hadeiladau yn cael eu cynnal yn dda ac yn ddiogel i’w defnyddio.
Peidiwch ag ymyrryd gyda’r trydan yn eich cartref – gadewch i ni wybod am unrhyw broblemau.
Beth rydym yn ei wneud – mewn blociau o fflatiau, ardaloedd cyffredin a chynlluniau gwarchod:
Beth yw eich cyfrifoldeb chi?
Rhai awgrymiadau ar gadw’r tu mewn i’ch cartref mewn cyflwr da. Gwnewch yn siŵr nad ydych chi, eich teulu neu ymwelwyr yn achosi difrod i’ch cartref, naill ai’n ddamweiniol neu’n fwriadol.
Er bod yswiriant adeiladau eisoes yn bodoli ar gyfer eich cartref, rydym yn argymell eich bod yn trefnu yswiriant i amddiffyn eich eiddo.