Trefnu gwaith trwsio
Mae llawer o ffyrdd o gysylltu gyda ni, naill ai arlein neu ar y ffôn.
Os oes rhywun wedi torri i mewn, neu os oes difrod troseddol wedi bod i’ch eiddo, byddwn yn dod allan i sicrhau bod yr eiddo yn ddiogel. Mae pob achos yn cael ei ystyried fesul un, a bydd yn dibynnu ar yr amgylchiadau a fyddwn yn codi tal am hyn.
Ffoniwch 01495 745910 a gallwn sgwrsio am y peth. I gael rhagor o wybodaeth ar beth i’w wneud os oes rhywun wedi torri i mewn, darllenwch ein gwybodaeth os oes rhywun yn torri i mewn.
Os ydych wedi difrodi eich eiddo eich hun yn ddamweiniol, y peth gorau i’w wneud yw cysylltu gyda ni – dylech fod yn ymwybodol y gall unrhyw ddifrod niweidiol neu fwriadol i’ch eiddo arwain atoch chi yn talu am y gwaith trwsio.
Mae llawer o ffyrdd o gysylltu gyda ni, naill ai arlein neu ar y ffôn.
Y camau gorau i’w cymryd os bydd rhywun yn torri i mewn neu os oes bwrgleriaeth.