Arbed arian ac ynni
Rydym wedi casglu ynghyd ychydig o syniadau a all eich helpu chi i leihau faint o ynni rydych yn ei ddefnyddio yn eich cartref.
Os ydych yn sylwi nad yw eich rheiddiaduron yn cynhesu, neu os yw eich gwres yn rhoi’r gorau i weithio, edrychwch ar y fideos defnyddiol isod gan Worcester Bosch i weld os yw unrhyw rai o’r pethau hyn yn effeithio eich system.
Weithiau, os nad ydych wedi defnyddio eich boeler am sbel, gall golli pwysedd – mae hyn yn rhywbeth y gallwch ei ddatrys eich hun. Mae Worcester Bosch wedi cynhyrchu fideo sy’n dangos i chi sut i ailbwyseddu eich system wresogi.
Os ydych yn cael problemau boeler na allwch eu datrys eich hun, yna cysylltwch â ni.
Os yw eich boeler wedi stopio gweithio mewn tymheredd isel iawn, yna mae siawns dda bod eich pibell gyddwyso wedi rhewi. Yn ffodus, nid yw hon yn broblem fawr a gallwch ei datrys yn hawdd eich hun.
Gwyliwch y fideo yma i weld sut i wneud hynny.
Os bydd un o’ch rheiddiaduron ddim yn cynhesu yn y top, dim ond gwaedu’r rheiddiadur sydd angen ei wneud. Gwyliwch y fideo yma i weld sut i wneud hyn.
Rydym wedi casglu ynghyd ychydig o syniadau a all eich helpu chi i leihau faint o ynni rydych yn ei ddefnyddio yn eich cartref.
Os nad yw’r awgrymiadau uchod wedi datrys eich problem, cysylltwch â ni i drefnu gwaith trwsio. Pan fyddwch yn cysylltu gyda ni, byddwn yn gofyn os ydych wedi rhoi cynnig ar y camau syml yma.